Eglwys Rydd Barhaus yr Alban

Enwad Bresbyteraidd Albanaidd yw Eglwys Rydd Barhaus yr Alban (Gaeleg: An Eaglais Shaor Leantainneach, Saesneg: Free Church of Scotland (Continuing)) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2000. Mae'n honni bod yn wir barhad o Eglwys Rydd yr Alban, ac felly mae'n defnyddio'r gair parhaus yn ei henw.

Eglwys Rydd Barhaus yr Alban
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eglwys Rydd Barhaus Stafain (Staffin)

Sefydliad golygu

Yn 1996, cafwyd yr Athro Donald Macleod, pennaeth Coleg yr Eglwys Rydd yng Nghaeredin, yn ddieuog o gyhuddiadau o ymosodiad rhyw pan ddyfarnodd siryf fod cynllwyn wedi bod yn ei erbyn.[1] Roedd cymdeithas o'r enw The Free Church Defence Association yn gweld bai "am beidio â dwyn yr Athro Macleod i brawf yn y Gymanfa Gyffredinol ac felly mae'r mwyafrif wedi cefnu ar yr egwyddor mai'r Gymanfa Gyffredinol gyfan a ddylai ymchwilio i honiadau o gamymddwyn, yn hytrach na Phwyllgor y Gymanfa Gyffredinol".[2] Diarddelwyd cadeirydd yr FCDA, y Parch. Morris Roberts, am anufudd-dod fis Mehefin 1999 am wrthod tynnu ei gyhuddiad yn ôl fod y Gymanfa Gyffredinol ym mis Mai y flwyddyn honno yn nodweddiadol am ei "drygioni a['i] rhagrith dybryd ac anwelladwy".[1]

Ym mis Awst 1999, cyfeiriodd cylchgrawn yr FCDA at "ddrygioni diarddel Mr Roberts".[1][3] Dywedwyd i'r FDCA am ymwahanu erbyn 30 Tachwedd 1999, ond ni wnaeth hyn.[4] Paratowyd cyhuddiadau yn erbyn 22 o weinidogion a wrthododd gydymffurfio, ac mewn gwrandawiad gan Gomisiwn y Gymanfa Gyffredinol ar 19-20 Ionawr 2000, cyhoeddwyd y cyhuddiadau hynny'n berthnasol.[5] Diarddelwyd y 22 weinidog ac ymatebon nhw drwy adael y comisiwn. Ar 20 Ionawr 2000, fe sefydlwyd Eglwys Rydd Barhaus yr Alban pan dderbyniwyd datganiad "Declaration of Reconstitution of the historic Free Church of Scotland".[6] Er bod y rhwyg oherwydd Donald Macleod ar yr wyneb, awgryma Johnston McKay mai ynglŷn â diwinyddiaeth yr oedd mewn gwirionedd, a bod yn yr FCDA yn cynnwys "pobl sydd yn glynu’n fwy cadarn wrth Gyffes Ffydd Westminster".[2]

Materion cyfreithiol golygu

Ar ôl ymadael â'r Eglwys Rydd, aeth yr Eglwys Rydd Barhaus o flaen y Llys Sesiwn, Goruchaf Lys Sifil yr Alban, i geisio perchnogaeth cronfa ganolog ac adeiladau'r Eglwys. Pan anfonwyd yr apêl i Dŷ Allanol y Llys Sesiwn, gwrthododd yr Arglwyddes Paton eu hachos, ond ni chaniataodd absolvitor,[5] sef, ni rwystrwyd yr Eglwys Rydd Barhaus rhag dod â'r achos gerbron y Llys eto. Ym mis Mawrth 2007, aeth Eglwys Rydd yr Alban i gyfraith yn An t-Àth Leathann (Broadford) ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye) er mwyn adennill mans yr eglwys. Collodd yr Eglwys Rydd Barhaus yr achos yn y gwrandawiad cyntaf ar ddyfarniad yr Arglwydd Uist,[7] a hefyd eu hapêl i Dŷ Mewnol y Llys Sesiwn.[8]

Mynegodd yr Eglwys Rydd Barhaus ei bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn, ond yn 2009, nododd Cynhadledd Ryngwladol yr Eglwysi Diwygiedig i Eglwys Rydd Barhaus yr Alban "dynnu ei hapêl yn ôl ar fater sifil a oedd i ddod".[9]

Cydnabyddiaeth golygu

Aelod o International Conference of Reformed Churches[10] ac o Affinity yw'r enwad.[11]

Cynulledifaoedd golygu

Mae gan Eglwys Rydd Barhaus 33 o gynulleidfaoedd yn yr Alban, un yng Nghanada a chwech [12] yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn mae dwy orsaf bregethu yn yr Unol Daleithiau ac athrofa a fferm arddangos yn Zambia.[12][13] 2,000 o aelodau sydd gan yr Eglwys [14] er bod y nifer sy'n mynychu'r eglwysi'n uwch. Mae'r eglwysi mwyaf yn Inbhir Nis, Caeredin a Steòrnabhagh (Stornoway), lle mae'r gynulleifa fwyaf.

Athrofa golygu

Mae Eglwys Rydd Barhaus yr Alban yn cynnal athrofa ar gyrion Inbhir Nis (Inverness) ar gyfer hyfforddi ei gweinidogion.

Lluniau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Templeton, Sarah-Kate (2 October 1999). "Free Church in crisis as two ministers face suspension". Sunday Herald. Cyrchwyd 24 Ionawr 2011.
  2. 2.0 2.1 Johnston, McKay (21 Ionawr 2000). "A church born out of division". BBC News. Cyrchwyd 24 Ionawr 2011.
  3. Notices Archifwyd 2012-10-17 yn y Peiriant Wayback., Free Church Foundations. Accessed 24 January 2011.
  4. McNeil, Robert (1 December 1999). "Rebels warn Free Church of their plan to break away". The Scotsman.
  5. 5.0 5.1 Opinion of Lady Paton. Adalwyd ar 16 Mehefin 2007
  6. Act XVIII, General Assembly Acts 2000-2008 Archifwyd 2011-07-25 yn y Peiriant Wayback..
  7. 2009 CSOH 113
  8. Opinion of Lord Osborne
  9. "2009 Conference Minutes" (PDF). International Conference of Reformed Churches. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-05-27. Cyrchwyd 24 Ionawr 2011.
  10. "Press Release". International Conference of Reformed Churches. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-27. Cyrchwyd 24 January 2011.
  11. "Affinity Partners". Affinity. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-08-22. Cyrchwyd 24 January 2011.
  12. 12.0 12.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-20. Cyrchwyd 2012-05-30.
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-03. Cyrchwyd 2012-05-30.
  14. http://www.reformiert-online.net/adressen/detail.php?lg=eng&id=96

Dolenni allanol golygu