Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy

eglwys yn Nhrefynwy

Saif Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy (neu Eglwys Sant Tomos ar lafar) ar bwys Pont Canol Oesol Mynwy yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy. Mae rhan o'r adeilad yn mynd yn ôl i tua 1180 ac mae ganddo bwa cangell sy'n dyddio'n ôl i'r 12ed ganrif. Adferwyd y tu allan yn y 19g.

Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlThomas Becket Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1170s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr17.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8085°N 2.72024°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iThomas Becket Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtywodfaen, llechfaen Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Mynwy Edit this on Wikidata

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw.[1]

Hanes a phensaerniaeth

golygu
 
Yr eglwys a'r groes yn 1904

Tywodfaen coch yw gwneuthuriad y waliau.[2] Enwyd yr eglwys ar ôl St Thomas à Becket,[3] fe'i gwnaed yn gapel anwes i Briordy Trefynwy gan nad oedd ganddo blwy. Fe'i rhestrwyd mewn dogfen a wnaed gan y Pab Urban III yn 1186.[4] Ymddengys iddo fod wedi'i godi erbyn 1170[5].

Cafodd y Priordy a'r bont gyfagos eu dinistrio gan dân ym Mrwydr Trefynwy yn 1233 pan godwyd gwrthryfel: y barwniaid yn erbyn Harri III.[4] Bu'n rhaid atgyweirio'r eglwys drwy ddefnyddio 12 derwen enfawr a roddwyd i'r eglwys gan Gwnstabl St Briavels yn Swydd Gaerwrangon.[4] Yn 1256 roedd nifer helaeth o feudwyaid yn byw yn y Priordy.[6]

Deiliaid

golygu
  • 1830 Joseph Fawcett Beddy
  • 1870 Thomas O. Tudor
  • 1879 Peter Potter
  • 1891 Francis Dudley
  • 1915 James Percy Lax Amos
  • 1923 H. Raymond Harvey
  • 1924 Ernest Anderson Thorne
  • 1939 Edmund Loftus MacNaghten
  • 1942 Ronald Davies
  • 1943 Edmund Ronald James Henry
  • 1947 Oliver Vivian Griffiths
  • 1964 Norman Havelock Price
  • 1993 Julian Francis Gray
  • 1998 Richard Pain
  • 2009 David McGladdery[7]

Y tu fewn

golygu

Y tu allan

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Adeiladau Cofrestredig Gwledydd Prydain; adalwyd 07/04/2012.
  2. John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, t.398
  3. Welcome to Monmouth, St Thomas Church Monmouth. Adalwyd 7 Rhagfyr 2011
  4. 4.0 4.1 4.2 "History of St Thomas the Martyr". Monmouth Parishes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-14. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2011.
  5. "Monmouth Town Guide". Cyngor Trefynwy. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2011.[dolen farw]
  6. Monmouth Civic Society, Guide to the Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., t.3
  7. Church of St Thomas, Monmouth pamphlet, Monmouthshire. Y Parchedig David McGladdery

Gweler hefyd

golygu

Dolen allanol

golygu