Priordy Trefynwy
Priordy Benedictaidd ger tref Trefynwy yn Sir Fynwy oedd Priordy Trefynwy, sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol.
![]() | |
Math |
mynachlog ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Trefynwy ![]() |
Sir |
Trefynwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.8135°N 2.71411°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc, Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £86, ac roedd yn berchen 480 acer o dir. Pan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig. Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £56, ac adroddwyd fod yr eglwys mewn cyflwr gwael iawn. Diddymwyd y priordy yn 1540.
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Erbyn heddiw mae Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch yn ei defnyddio yn reolaidd.[1]
Gweler hefydGolygu
LlyfryddiaethGolygu
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120
CyfeiriadauGolygu
- ↑ http://www.cymdeithasgymraegtrefynwy.org.uk/ Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch