Eglwys y Crwys
capel yng Nghaerdydd
Capel Cristnogol yn Heol Richmond, Caerdydd, yw Eglwys y Crwys. 'Capel Heol y Crwys' oedd yr enw gwreiddiol ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer J.H. Phillips a'i godi ym 1899. Mae'r adeilad hwnnw bellach yn fosg. Mae cyfrol 24 tudalen o hanes yr achos wedi ei chyhoeddi.[1][2]
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.48854°N 3.17191°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Symudwyd yr achos i'r safle newydd ar Heol Richmond (Cyfesurynnau'r OS: ST187772) ym 1988.[3] Roedd yr adeilad yn wreiddiol yn berchen i'r Gwyddonwyr Cristnogol.
Yn ystod canol yr 20g byddai mynychwyr Capel y Crwys yn mynd i gymdeithasu yn Tŷ'r Cymry yn 11, Gordon Rd, wedi cyfarfodydd ar nos Sul.[4]
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.50–1
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. Gwynfor Jones (gol.), Eglwys y Crwys 1884-2009: yng ngolau Ffydd, llyfryn y dathlu 125 mlynedd (Caerdydd, 2009).
- ↑ Llyfrau Google; adalwyd 5 Gorffennaf 2015
- ↑ www.eglwys-y-crwys.org.uk; Archifwyd 2016-01-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 5 Gorffennaf 2015
- ↑ https://issuu.com/dinesydd/docs/dinesydd_ebrill_2006