Addoldai Cymraeg Caerdydd

Dyma restr anghyflawn o addoldai Cymraeg yng Nghaerdydd.

Llun Enw Ardal Agor Cau Enwad Manylion pellach
Bethlehem Eyre Street, Y Sblot 1895 1908 Annibynwyr Merch eglwys i Ebeneser (gw. isod). Fe'i corfforwyd yn 1896.[1]
Bethlehem (yr un eglwys ag uchod) Eyre Street, Y Sblot 1908 ? Annibynwyr Penseiri: Habershon & Faulkner, Caerdydd.[2]
Beulah Rhiwbeina 1851 1891 Annibynwyr Corfforwyd yr eglwys yn 1849.[3]
Beulah (yr un eglwys ag uchod) Rhiwbeina 1891 Annibynwyr Saif y capel newydd gyferbyn â'r un blaenorol. Wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.[3]
Ebeneser Paradise Place, canol y ddinas 1828 1978 Annibynwyr Corfforwyd yr eglwys yn 1826; y sillafiad Ebenezer a ddefnyddid yn wreiddiol. Mae'r adeilad wedi ei ddymchwel, ond mae plac yn nodi'r safle yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.[4] Symudodd yr eglwys i hen gapel yr Annibynwyr Saesneg ar Charles Street yn 1978 (gw. isod). Mae dwy gyfrol o hanes yr eglwys wedi eu cyhoeddi.[5]
Ebeneser (yr un eglwys ag uchod) Charles Street, canol y ddinas 1978 2012 Annibynwyr Mae'r eglwys bellach yn cwrdd yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd ac yn City Church, Windsor Place.
Minny Street Cathays 1887 Annibynwyr Merch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Corfforwyd yr eglwys ar 18 Chwefror 1885. Codasid ysgoldy eisoes yn 1884 (sef festri'r capel presennol). Mae tair cyfrol o hanes yr eglwys wedi eu cyhoeddi.[6]
Mount Stuart Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt 1858 1912 Annibynwyr Merch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Ymadawyd â Sgwâr Mount Stuart yn 1912. Dymchwelwyd y capel er mwyn codi'r Phoenix Buildings presennol.
Mount Stuart (yr un eglwys ag uchod) Pomeroy Street, Tre-biwt 1912 rhywdro cyn 1956 Annibynwyr Penseiri: James & Morgan, Caerdydd. Er symud i Pomeroy Street, daliwyd i ddefnyddio'r enw 'Mount Stuart' am yr achos.[7] Erbyn 1955 roedd y capel yn gartref i un o achosion y Bedyddwyr Saesneg (Bethel).[8] Caeodd yr achos hwnnw yn 2000 a dymchwelwyd y capel tua 2012.
Severn Road Glan'rafon 1868 1979 Annibynwyr Corfforwyd yn 1867 yn ferch eglwys i Ebeneser (gw. uchod). Archif ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r capel bellach yn fosg.
Ainon Walker Road, Y Sblot 1896 1975 Bedyddwyr Corfforwyd yn 1894 yn ferch eglwys i Salem, Adamsdown. Cyflwynwyd gwasnaethau Saesneg yn 1911 ac erbyn 1929 roedd y cyfan yn Saesneg. Ymadawodd ag Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1926 er mwyn ymuno â'r Baptist Union of Great Britain. Archif[dolen farw] yn Archifdy Morgannwg. Cyhoeddwyd cyfrol o'i hanes.[9] Dymchwelwyd y capel oddeutu 1977.[10]
Llandaff Road Treganna 1853 ? Bedyddwyr Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Troes yr iaith i'r Saesneg ar ddiwedd y 19g. Mae'r capel bellach yn gartref i'r Cardiff Chinese Christian Church.
Salem Moira Terrace, Adamsdown 1860 1972 Bedyddwyr Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Adeiladwyd gan John Jones, Newtown. Pensaer: Thomas Davies. Gwerthwyd y capel i'r Church of Christ yn 1972. Cyhoeddwyd cyfrol o'i hanes hyd at 1911.[11]
Siloam Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt 1858 1901 Bedyddwyr Merch eglwys i'r Tabernacl (gw. isod). Ymadawyd â chapel Sgwâr Mount Stuart ar 29 Medi 1901 ac yn fuan wedyn dymchwelwyd yr adeilad i godi'r Phoenix Buildings presennol. Symudwyd i'r capel newydd y flwyddyn ganlynol.[12]
Siloam (yr un eglwys ag uchod) Corporation Road, Grangetown 1902 1950au Bedyddwyr Pensaer: G. L. Walkins. Gwerthwyd y capel yn ystod y 1950au i Fyddin yr Iachadwriaeth (sydd yno hyd heddiw). Roedd y gwasanaethau Cymraeg wedi dod i ben beth amser cyn hynny.
Tabernacl Yr Aes, canol y ddinas 1821 Bedyddwyr Archif[dolen farw] rannol yn Archifdy Morgannwg. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o hanes yr eglwys.[13]
Eglwys y Galon Sanctaidd Broad Street, Treganna ? ? Yr Eglwys Gatholig Dymchwelwyd yr eglwys yn Hydref 2015.
Eglwys Sant Philip Evans Rhodfa Llanedern, Llanedern ? Yr Eglwys Gatholig Yma y dethlir yr offeren Gymraeg ar hyn o bryd (Chwefror 2015).[14]
Eglwys yr Holl Saint Stryd Tyndall, Tre-biwt 1856 1899 Eglwys Loegr Pensaer: Alexander Roos. Cafwyd y gwasanaeth Cymraeg olaf yn 1875.[15]
Eglwys Dewi Sant Gerddi Howard, Adamsdown 1889 1941 Eglwys Loegr, yna'r Eglwys yng Nghymru Pensaer: E. M. Bruce Vaughan. Dinistriwyd yr eglwys hon mewn cyrch awyr ym mis Mawrth 1941.[16]
Eglwys Dewi Sant Cilgant Sant Andreas, Cathays 1956 Yr Eglwys yng Nghymru Hen eglwys Saesneg Sant Andreas, a gysegrwyd yn gyntaf yn 1863. Cynhaliwyd rhai gwasnaethau Cymraeg yno ar ddiwedd y 1880au.[17]
Bethania Sgwâr Loudoun, Tre-biwt 1856 1937 Methodistiaid Calfinaidd Pan gaeodd y capel symudodd yr aelodau i gapel Pembroke Terrace (gw. isod).[18] Dymchwelwyd y capel ar ddechrau'r 1960au.[19]
Eglwys y Crwys Richmond Road, Plasnewydd 1988 Methodistiaid Calfinaidd Parhad o achos Heol y Crwys (gw. isod). Roedd y capel yn wreiddiol yn berchen i'r Gwyddonwyr Cristnogol. Mae cyfrol o hanes yr achos wedi ei chyhoeddi.[20] (Gw. hefyd ar Heol y Crwys isod.)
Gilgal Chapel Street, Llandaf 1859 ? Methodistiaid Calfinaidd Merch eglwys i Ebenezer, yr Eglwys Newydd (gw. uchod).[21] Mae'r adeilad bellach yn neuadd gymunedol.
Heol y Crwys Cathays 1900 1988 Methodistiaid Calfinaidd Parhad o achos Horeb (gw. isod). Pensaer: J. H. Phillips. Mae'r adeilad bellach yn fosg. Mae cyfrol o hanes yr achos wedi ei chyhoeddi.[22] (Gw. hefyd ar Eglwys y Crwys uchod.)
Horeb May Street, Cathays 1884 1900 Methodistiaid Calfinaidd Merch eglwys i Pembroke Terrace (gw. isod). Parhaodd yr achos yn Heol y Crwys (gw. uchod). Mae'r adeilad bellach yn eiddo i Fyddin yr Iachawdwriaeth.
Jerusalem Manon Street/Walker Road, Y Sblot 1892 ? Methodistiaid Calfinaidd Merch eglwys i Pembroke Terrace (gw. isod).[23] Pan gaeodd yr achos symudodd yr aelodau i Eglwys y Crwys (gw. uchod). Chwalwyd yr adeilad yn 1987.[24]
Pembroke Terrace Churchill Way, canol y ddinas 1878 1975 Methodistiaid Calfinaidd Pensaer: Henry C. Harris. Parhad o achos Seion. Pan gaeodd capel Pembroke Terrace symudodd yr aelodau i achos Heol y Crwys. Mae'r capel bellach yn dŷ bwyta.
Salem Edward Street, Treganna 1856 1903 Methodistiaid Calfinaidd Adnewyddwyd yn 1868.
Salem (yr un eglwys ag uchod) Market Street, Treganna 1903 Methodistiaid Calfinaidd Mae'r capel yn dal ar agor.
Tabernacl Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd 1866 Methodistiaid Calfinaidd Wedi cyfnod o gynnal gwasanaethau dwyieithog yn y 1880au a'r 1890au, troes yr iaith yn gyfan gwbl i'r Saesneg yn 1896, er i'r achos yn weinyddol barhau'n rhan o'r Cylch Misol Cymraeg hyd at 1899.[25] Datgorfforwyd yr achos yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2023. Symudodd Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd ei chyfarfodydd yno o’i hadeilad blaenorol yn Cathays yn 2021.
Tabernacl Crofft y Genau, Sain Ffagan 1837 Methodistiaid Calfinaidd Adnewyddwyd yn 1900. Newidiodd yr iaith i'r Saesneg rywdro cyn 1903.[26]
Bethel Union Street 1978 Methodistiaid Wesleaidd
Bethel (yr un achos ag uchod) Rhiwbeina Methodistiaid Wesleaidd Parhad o'r achos uchod.
Gilead Tredelerch c. 1814 1929 Methodistiaid Wesleaidd Roedd yr iaith wedi troi i'r Saesneg erbyn 1900.[27] Symudodd yr achos Saesneg i adeilad newydd yn 1929. Mae cyfrol o'i hanes wedi ei chyhoeddi.[28]
Llandaf Cardiff Road, Llandaf ? Methodistiaid Wesleaidd Trosglwyddwyd yr achos i'r gylchdaith Saesneg erbyn 1891.[29]
Eglwys West Grove Plasnewydd 1954 2005 Undodiaid Cafwyd y gwasanaethau Cymraeg cyntaf yn 1954.[30] Gwerthwyd Eglwys West Grove (a agorwyd gyntaf yn 1887) yn 2005.[31]
Tŷ Cwrdd y Crynwyr Charles Street, canol y ddinas 2005 Undodiaid Parhad o achos Eglwys West Grove (gw. uchod).

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. Austin Jenkins ac R. Edwards James, The History of Nonconformity in Cardiff (Cardiff, 1901), t. 92.
  2. d.e., ''Caerdydd', Y Tyst (25 Tachwedd 1908), t. 10.
  3. 3.0 3.1 Beulah United Reformed Church History, gwelwyd 1 Chwefror 2015.
  4. d.e., 'Dadorchuddio cofeb hen Gapel Ebeneser, Caerdydd', Barn, 263 (Rhagfyr 1984), t. 394.
  5. H. M. Hughes, Hanes Ebenezer Caerdydd: 1826–1926 (Caerdydd, 1926); W. C. Elvet Thomas ac Aneirin Lewis, Ebeneser, Caerdydd 1826–1976 (Abertawe, 1976).
  6. d.e., Llawlyfr hanner canmlwydd Eglwys Annibynnol Minny Street Caerdydd, 1884–1934 (Caerdydd, c.1934); Iwan Jones, Braslun o hanes Eglwys Annibynnol Minny Street Caerdydd 1884–1984 (Caerdydd, 1985); John Gilbert Evans, Glyn E. Jones ac Iolo M. Ll. Walters (gol.), Llewyrch Ddoe, Llusern Yfory: Eglwys Annibynnol Minny Street, Caerdydd 1884–2009 (Caerdydd, 2009).
  7. d.e., 'Mount Stuart, Caerdydd', Y Tyst, 20 Mai 1914, t. 7.
  8. Coflein: Bethel Congregational Chapel, Pomeroy Street, Butetown[dolen farw]; gwelwyd 5 Chwefror 2015.
  9. G. Sorton Davies, These Forty Years: A History of Ainon Baptist Church, Splott, Cardiff, 1889-1929 (Cardiff, 1929).
  10. Coflein: Ainon Baptist Chapel Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback; gweld 1 Chwefror 2015.
  11. Henry Griffiths 'Croesgochiad', Hanner-can-mlwyddiaeth Salem, Eglwys y Bedyddwyr, Caerdydd, 1861–1911 (Caerdydd, 1911).
  12. W. Harries, 'Eglwys y Bedyddwyr Siloam Docks, Caerdydd', Seren Cymru, 5 Rhagfyr 1902, t. 6.
  13. Charles Davies, Canmlwyddiant Eglwys y Bedyddwyr Cymreig yn y Tabernacl, Caerdydd (Caerdydd, 1914); John Gwynfor Jones a Denzil Ieuan John (gol.), Eglwys y Tabernacl, Caerdydd: dathlu 200 mlynedd: rhannu cariad Crist yng nghanol y ddinas (Caerdydd, 2013).
  14. Plwyf St Philip Evans: Croeso Archifwyd 2014-11-30 yn y Peiriant Wayback; gwelwyd 10 Chwefror 2015.
  15. Roger Lee Brown, Irish Scorn, English Pride and the Welsh Tongue: A History of the Welsh Church in Cardiff during the Nineteenth Century (Tongwynlais, 1987), tt. 22 a 84.
  16. Roger Lee Brown, Irish Scorn, English Pride and the Welsh Tongue: A History of the Welsh Church in Cardiff during the Nineteenth Century (Tongwynlais, 1987), t. 81.
  17. Roger Lee Brown, Irish Scorn, English Pride and the Welsh Tongue: A History of the Welsh Church in Cardiff during the Nineteenth Century (Tongwynlais, 1987), t. 83.
  18. J. Gwynfor Jones (gol.), Cofio yw Gobeithio[:] Cyfrol Dathlu Canmlwyddiant Achos Heol-y-Crwys, Caerdydd 1884–1984 (Caernarfon, 1984), t. 25.
  19. Addoldai Cymru: Bethania; gwelwyd 1 Chwefror 2015.
  20. J. Gwynfor Jones (gol.), Eglwys y Crwys 1884–2009: yng ngolau Ffydd, llyfryn y dathlu 125 mlynedd (Caerdydd, 2009).
  21. Edgar L. Chapell, Old Whitchurch: The Story of a Glamorgan Parish (Cardiff, 1945), t. 111.
  22. J. Gwynfor Jones (gol.), Cofio yw gobeithio: cyfrol dathlu canmlwyddiant achos Heol-y-Crwys, Caerdydd, 1884–1984 (Caerdydd, 1984).
  23. J. Austin Jenkins ac R. Edwards James, The History of Nonconformity in Cardiff (Cardiff, 1901), t. 92
  24. Jeff Childs, Roath, Splott and Adamsdown: One Thousand Years of History (Stroud, 2012).
  25. Edgar L. Chapell, Old Whitchurch: The Story of a Glamorgan Parish (Cardiff, 1945), tt. 114–15.
  26. D. M. T., 'Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr. Daniel Morgan, St. Fagans, ger Caerdydd', Y Goleuad, 20 Mawrth 1903, t. 12.
  27. 'Cyfarfod Talaethol Deheudir Cymru', Y Gwyliedydd, 30 Mai 1900.
  28. Frances a Margaret Hobbs, 170 Years of Wesleyan Methodist Witness, 1823-1993: Rumney Methodist Church (Cardiff, 1993).
  29. 'Crefyddol', Y Cymro, 15 Ionawr 1891, t. 7.
  30. d.e., 'Undodiaid Caerdydd', Y Dinesydd 15 (Tachwedd 1974), t. 12.
  31. d.e., 'Undodiaid Caerdydd Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback'; gwelwyd 20 Chwefror 2015.