Ehangu'r Undeb Ewropeaidd
Sefydlwyd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym 1957 gan chwe gwladwriaeth (yn dilyn sefydliad cynharach y Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd gan yr un chwe gwladwriaeth ym 1952), ac mae ef wedi tyfu i gynnwys 28 aelod-wladwriaeth. Ehangwyd yr UE pum gwaith; digwyddodd yr ehangiad mwyaf ar 1 Mai 2004, pan ymunodd 10 gwladwriaeth, a'r ehangiad diweddaraf ar 1 Gorffennaf 2013, pan ymunodd Croatia.
Ar hyn o bryd, mae trafodaethau ymaelodi yn mynd rhagddo gyda sawl gwladwriaeth. Cyfeirir weithiau at y broses ehangu fel integreiddio Ewropeaidd. Serch hynny, defnyddir y term hwn hefyd i gyfeirio at ddwysáu cydweithrediad ymhlith aelod-wladwriaethau'r UE.
Er mwyn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, mae rhaid i wladwriaeth fodloni'r amodau economaidd a gwleidyddol a adwaenir yn gyffredinol fel "meini prawf Copenhagen" (ar ôl uwch-gynhadledd Copenhagen ym Mehefin 1993). Mae'r amodau hyn yn cynnwys llywodraeth fydol a democrataidd, rheolaeth cyfraith, a rhyddid a sefydliadau cyfatebol. Yn ôl Cytundeb yr UE, mae rhaid i bob aelod-wladwriaeth presennol, yn ogystal â Senedd Ewrop, gytuno i unrhyw ehangiad.
Dan Gytundeb yr UE presennol, nid oes darpariaeth ar gyfer addasu'r trefniadau pleidleisio ar gyfer mwy na'r 28 aelod presennol. Er i'r Cyfansoddiad Ewropeaidd arfaethedig ddarparu mecanwaith o'r fath, mae cadarnhad y Cyfansoddiad wedi ei atal dros dro. O ganlyniad, byddai angen cytuno ar drefniadau newydd cyn ehangu'r UE ymhellach.