Cerflun pren hynaf y byd yw eilun Shigir (Rwsieg: Шигирский идол)[1] a wnaed tua 7,500 CC yn ystod y cyfnod Mesolithig (Oes Ganol y Cerrig).

Eilun Shigir

Mae'n cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Hanes yn Yekaterinburg, Oblast Sverdlovsk, Rwsia.[2]

Darganfod golygu

Darganfuwyd yr eilun ar y 24ain o Ragfyr, 1894, mewn dyfnder o 4m yng nghors fawn Shigir, ar lethrau dwyreiniol Mynyddoedd Wral, tua 100 km o Yekaterinburg. Roedd archwiliadau yn yr ardal wedi cychwyn 40 mlynedd cyn hynny ar ôl i sawl math o wrthrychau cynhanesyddol gael eu darganfod ar safle mwynglawdd aur awyr-agored.

Fe'i tynwyd o'r gors mewn sawl rhan; cyfunodd yr Athro D. I. Lobanov y prif ddarnau i adlunio cerflun sy'n 2.80m o daldra.

Yn 1914, cynigiodd yr archaeolegydd Vladimir Tolmachev adluniad newydd gan ddefnyddio'r darnau nas defnyddiwyd gan Lobanov. Collwyd rhai o'r darnau hynny wedyn ac felly dim ond darluniau Tolmachev ohonynt sy'n goroesi.

Dyddio golygu

Mae'r dyddio radiocarbon a wnaed gan G. I. Zajtseva o'r Sefydliad Hanes Diwylliant Materol yn St Petersburg, a gadarnhawyd gan Sefydliad Daeaereg Academi Gwyddoniaeth Rwsia ym Moscfa, yn rhoi oed o 9,500 mlynedd i'r eilun. Dyma'r cerflun pren hynaf yn y byd a wyddys hyd yn hyn felly.

Disgrifiad golygu

Ers 2003 mae'r cerflun yn cael arddangos mewn blwch gwydr wedi'i lenwi â nwy yn Amgueddfa Hanes Yekaterinburg.

Mae'r pen yn dangos wyneb gyda llygaid, trwyn a cheg arno. Mae'r corff yn fflat a hironglog. Ceir patrymau geometraidd arno. Ger y thoracs ceir llinellau syth sydd yn cynrychioli asenau; ceir llinellau gyda chevrons ar weddill y corff.

Nid oes cytundeb gan archaeolegwyr am union ystyr y patrymau hyn nac am yr hyn a gynrychiolir gan y cerflun.

Cyfeiriadau golygu

  1. Понизовкин, Андрей (Medi 2003). Куда шагал Шигирский идол? (PDF). Наука Урала (yn Rwseg) (20-2003 [848]). Cangen Wral Academi Gwyddorau Rwsia. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-03-17.
  2. Petricevic, Ivan (2014-11-28). "The Shigir Idol, A Wooden Statue Twice As Old As The Pyramids Of Egypt". Ancient-code.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-11. Cyrchwyd 2014-12-02.

Dolen allanol golygu