Eirian Llwyd

gwneuthurwr printiau o Gymraes

Arlunydd Cymreig oedd Eirian Llwyd (195029 Ionawr 2014) a gwraig cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

Eirian Llwyd
Ganwyd1951 Edit this on Wikidata
Prion Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 2014 Edit this on Wikidata
Ysbyty Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwneuthurwr printiau, arlunydd Edit this on Wikidata
PriodIeuan Wyn Jones Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Llwyd yn Prion ger Dinbych.[1] Ar ôl nyrsio yn Lerpwl rhwng 1969-73 gweithiodd fel bydwraig yn Ysbyty Llanelwy. Priododd Ieuan yn 1974 ac roedd yn gefnogol o'i yrfa wleidyddol yn San Steffan, Aelod o'r Cynulliad, Arweinydd Plaid Cymru a Dirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Cymru'n Un.[2]

Roedd Llwyd yn genedlaetholwr balch ac ymgyrchodd gyda Chymdeithas yr Iaith dros yr Iaith Gymraeg yn y 1960au a'r 1970au. Bu hefyd yn hyrwyddo sefyllfa menywod mewn gwleidyddiaeth gan helpu ail-lunio cyfansoddiad Plaid Cymru yn yr 1980au i help cael menywod ar brif bwyllgorau'r Blaid. Ynghyd a'i gwaith elusennol, sefydlodd Llwyd gangen Rhyl o Gymorth i Fenywod yn y 1970au a'r 1980au.[3]

Yn 2001, canolbwyntiodd Llwyd ar fyd celf a graddiodd o Athrofa Addysg Uwch Caerdydd gan arbenigo ym maes print. Wedi hynny bu'n arddangos yn rheolaidd yng Nghymru a thramor.[4][5] Gyda'i llwyddiant, cydsefydlodd gwmni Y Lle Print Gwreiddiol, a ddaeth a printiadau gwreiddiol nifer o artistiaid blaenllaw Cymru i sylw cynulleidfa ehangach.[6][7]

Bu farw Llwyd yn 63 mlwydd oed, yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl salwch byr gyda chanser. Yn Ionawr 2015, cyhoeddwyd byddai Cronfa Goffa yn cael ei greu er mwyn rhoi grantiau i artistiaid Cymreig sy'n arbenigo mewn gwneud printiau.[8][9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Eirian Llwyd, artist and wife of Ieuan Wyn Jones, dies". BBC News. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  2. Tom Bodden (30 January 2014). "Eirian Llwyd, wife of former Plaid Cymru leader Ieuan, dies aged 63". northwales. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  3. "A tribute to Eirian Llwyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  4. Eryl Crump (5 October 2015). "Art by the late Eirian Llwyd to be exhibited at Y Senedd in Cardiff". northwales. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016.
  5. "[[Celtic Family Magazine]] Fall 2014 Issue #5". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016. URL–wikilink conflict (help)
  6. northwales Administrator (22 Mawrth 2013). "Anglesey print maker opens studio to shed light on her craft". northwales. Cyrchwyd 24 February 2016.
  7.  Plaid Cymru - teyrngedau. Plaid Cymru. Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.
  8. Eryl Crump (10 Rhagfyr 2015). "New art award in memory of Anglesey artist Eirian Llwyd". northwales. Cyrchwyd 24 February 2016.
  9. "Arts Council of Wales - Eirian Llwyd Memorial Award". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 24 Chwefror 2016. horizontal tab character in |title= at position 25 (help)