Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1861 yn Aberdâr, Sir Forgannwg (Rhondda Cynon Taf bellach). Hon oedd y gyntaf yn y gyfres o eisteddfodau cenedlaethol blynyddol yng Nghymru, sef Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd bellach yn ganolog i'r diwylliant Cymraeg.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1861 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadAberdâr Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Deilliodd yr eisteddfod hon o gyfarfod yn Eisteddfod Dinbych 1860 i ystyried argymhellion gan Clwydfardd a Glan Alun i sefydlu eisteddfod flynyddol ar gyfer Cymru gyfan, yn y Gogledd a'r De yn eu tro.[1] Daeth y gyfres flynyddol a gychwynodd ag Eisteddfod Aberdâr i ben yn 1868 oherwydd diffyg cyllid, ond yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914 a 1940.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Melville Richards, "Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg", yn Twf yr Eisteddfod: Tair Darlith, gol. Idris Foster (Aberystwyth: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968), tud. 37
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.