Thomas Jones (Glan Alun)
Bardd a llenor oedd Thomas Jones (11 Mawrth 1811 – 29 Mawrth 1866), a ysgrifennai dan yr enw barddol Glan Alun.
Thomas Jones | |
---|---|
Ffugenw | Glan Alun |
Ganwyd | 11 Mawrth 1811 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 29 Mawrth 1866 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cannwyll-gwneuthurwr, gwerthwr teithiol |
Plant | John Thomas Alun Jones |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.
Gyrfa
golyguGaned Glan Alun yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Cafodd ei ddwyn i fyny yn fferyllydd ac sefydlodd busnes yn Wrecsam. Aeth yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Methodistiaid. Cychwynodd fisolyn o'r enw Y Wenynen ond nid oedd yn llwyddiannus iawn. Aeth ei fusnes i'r wal a dechreuodd gwneud a gwerthu canhwyllau dros gwmni masnachol o Fanceinion. Goleddai syniadau Radicalaidd yr oes.[1]
Cerddi
golyguEi unig waith cyhoeddedig yw'r gyfrol Ehediadau Byrion, a gyhoeddwyd yn 1862. Er nad oes lawer o werth llenyddol i'w cerddi maent yn enghraifft dda o'r farddoniaeth boblogaidd ar ganol y 19g. Mwy diddorol heddiw efallai yw'r llyfr taith byr ar ddiwedd y gyfrol, sy'n disgrifio ei daith o gwmpas canolbarth a gogledd Cymru yn y 1840au. Mae rhai o'r darluniau a geir ynddo, fel ei ddisgrifiad o dafarn yn Llandrindod ar ddiwrnod o law, yn dangos gwreiddioldeb a ffresni nas ceir fel rheol yn y rhan fwyaf o ryddiaith y ganrif.[1]
Gwyddoniaeth
golyguDadlennol darllen y fferyllydd, Thomas Jones, yn disgrifio natur yr elfennau cemegol yn Y Wenynen (1836)[2]. Disgrifiadau clir (ond ddim yn hollol gywir) o Ocsigen, Hydrogen a Nitrogen ynghyd â braslun o weddill yr "oddeutu wyth a deugain o elfenau (sic)" (gan gynnwys "brwmstan", y mettelau (sic) a'r naw o "briddau"). Mae R. Elwyn Hughes yn cyfeirio ato fel enghraifft dda o awdur poblogaidd ar gemeg y cyfnod[3].
Llyfryddiaeth
golygu- Glan Alun, Ehediadau Byrion (Hugh Jones, Yr Wyddgrug, 1862)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
- ↑ Jones, Thomas (1836). "Yr Elfenau (o'r Wenynen)". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 24 Medi 2019.
- ↑ Hughes, R. Elwyn (Gaeaf 1999). "Arfonwyson - Uchelgais a siom". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 31: 149-171. https://journals.library.wales/view/1277425/1290993/34#?xywh=-2125%2C-254%2C7166%2C4658.