Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1916 yn Aberystwyth, Sir Ceredigion.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1916
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1916 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Meini'r Orsedd a godwyd yn 1915 ar gyfer Eisteddfod 1916, Castell Aberystwyth

Yng nghystadleuaeth y Gadair, ar destun "Ystrad Flur", derbyniwyd tair awdl, yn dwyn yr enwau Penbanc, Y Fantell Fair ac Eldon. Gwelwyd rhaniad eglur rhwng dau o'r beirniaid rhwng y ddau olaf. Yn ôl John Morris-Jones, roedd gwaith Y Fantell Fair yn "frith o wallau", tra bod Eldon yn cynnig "newydd-deb yn ei drefniant"; ei gasgliad oedd y dylid gwybrwyo'r ail. Disgrifiodd J.J. Williams y ddau yn rhagorol, ac Eldon "yn rhydd o'r brychau sy'n anurddo cerdd Y Fantell Fair". Disgrifa gwaith Eldon fel "Awdl o cameos...awdl anghyfartal" tra bod Y Fantell Fair wedi llwyddo "i ddal y peth anghyffrwdd hwnnw a eliwr yn awyrgylch". Wedi pwyso a mesur, barnodd yntau mai Y Fantell Fair oedd orau. Ni chafywd sylw gan y trydydd beirniad, Parch. R. Williams (Berw), heblaw ei fod yn hollol gydolygu â'r Athro John Morris-Jones. Oherwydd hynny, dyfarnwyd y gadair i Eldon, sef John Ellis Williams, gweinidog o Fangor,[1] gan siomi Y Fantell Wen, sef Hedd Wyn, a aeth ymlaen i ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917.

Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, ysgrifennodd Alan Llwyd, mai "awdl o fân ddarluniau yw awdl J. Ellis Williams, ond ni cheir yn y gerdd unrhyw unoliaeth neu artistri o ran cynllun", a'r "gwir yw mai cystadleuaeth rhwng bardd athrylithgar diaddysg a bardd addysgedig diathrylith oedd hon, ac aeth y purydd ieithyddol, John Morris-Jones, am yr awdl ramadegol gywir*[2]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Ystrad Fflur Eldon John Ellis Williams
Y Goron (*) Pedair telyneg - Rhannu'r wobr rhwng John Jenkins (Gwili) a Wil Ifan

(*) Ni chynigiwyd Coron.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1916
  2. Gwae Fi Fy Myw: Cofiant Hedd Wyn, Alan Llwyd, 1991

Dolenni allanol golygu