Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018
Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd ar faes Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed 2018 rhwng 28 Mai a 2 Mehefin 2018 ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Dyna oedd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ardal mewn 40 mlynedd a teimlwyd iddi fod yn "llwyddiannus iawn".[1]
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2018 |
Lleoliad | Llanelwedd |
Cynhaliwyd y Gyngerdd Agoriadol ym Mhafiliwn y Sioe. Y perfformwyr oedd; Swnami, Al Lewis, Greta Isaac, Welsh Whisperer, Cedron Siôn, Sophie Jones a'r cyflwynydd oedd Ifan Jones Evans.[2] Bu'r actores, Lowri Roberts, a fagwyd yn ardal Aberhonddu yn Lywydd y Dydd ar ddydd Iau yr Eisteddfod.[3] a'r actor Richard Lynch ar ddydd Gwener.[4] Dywedodd Lynch bod "angen i'r Urdd estyn mas at leiafrifoedd ethnig".[5]
Enillwyr
golygu- Y Goron - Erin Hughes o Ben Llŷn ond myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor[6] ond ni allodd fynychu'r seremoni oherwydd salwch[4]
- Y Gadair - Osian Wyn Owen o'r Felinheli[3][7] Enillodd hefyd, maes o law yn Eisteddfod T, 2020 - yr eisteddfod oedd ar-lein ac ar y cyfryngau yn unig oherwydd gwaharaddiadau teithio a chymysgu cymdeithasol yn sgîl haint Covid-19.
- Y Fedal Ddrama - Mirain Alaw Jones o Gapel Seion yng Nghwm Gwendraeth bu'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.[8]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Tlws y Cyfansoddwr -
- Enillydd y Fedal Gelf - Luke MacBride o Abertawe[9]
- Medal y Dysgwr - Rebecca Morgan, cyn-fyfyrwraig Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, oedd yn athrawes yn yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf[10][11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Urdd Eisteddfod 2018: Praise for "extremely successful" Brecon and Radnorshire eisteddfod". =County Times. 7 Mehefin 2018.
- ↑ "Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2018". Twitter @EisteddfodUrdd. 27 Mai 2017. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2023.
- ↑ 3.0 3.1 "Lluniau: Dydd Iau Eisteddfod yr Urdd 2018". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2018.
- ↑ 4.0 4.1 "Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2018 // In pictures: Friday at the Urdd Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2018.
- ↑ "Angen i'r Urdd estyn mas i leiafrifoedd ethnig". Golwg360. 2018.
- ↑ "ERIN HUGHES YN ENNILL CORON EISTEDDFOD YR URDD". Prifysgol Bangor. 1 Mehefin 2018.
- ↑ "Osian Wyn Owen yn ennill cadair Eisteddfod yr Urdd 2018". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2018.
- ↑ "Mirain Alaw Jones yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 30 Mai 2018.
- ↑ "Luke MacBride o Abertawe yw enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018". Twitter @EisteddfodUrdd. 28 Mai 2018.
- ↑ "Cyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe yn ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2018". Prifysgol Abertawe. 1 Mehefin 2018.
- ↑ "Enillydd Medal y Dysgwyr - Eisteddfod yr Urdd 2018". Sianel Youtube S4C. 2018.
Dolenni allanol
golygu- Ffotos o'r Ŵyl ar wefan FfotoCymru
- Edrych ymlaen at Eisteddfod 2018 Golwg 360