Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal Llandaf, Caerdydd yw Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (Saesneg: Bishop of Llandaff Church in Wales High School).

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Bishop of Llandaff
Church in Wales High School
Arwyddair Faith in Education
Ystyr yr arwyddair Ffydd mewn Addysg
Sefydlwyd 1960
Math Cyfun, Gwirfoddol
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Cristnogol
Pennaeth Y Parch. C. G. Hollowood
Arbenigedd Coleg Chweched Ddosbarth
Lleoliad Rockwood Close, Llandaf, Caerdydd, Cymru, CF5 2NR
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Staff tua 110
Disgyblion tua 1,400
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd St John (coch)
St Paul (melyn)
St Teilo (gwyrdd)
St David (glas)
Gwefan bishopofllandaff.cardiff.sch.uk

Mae'n ysgol ar gyfer plant 11 i 18 oed, sy'n gwasanaethu ardal Caerdydd ac ardaloedd cyfagos, megis Bro Morgannwg, Pontypridd a Phen-y-bont. Er bod yr ysgol yn cael ei rheoli yn rhannol gan yr Eglwys yng Nghymru, mae disgyblion Cristnogol o enwadau eraill hefyd yn mynychu'r ysgol.

Rhestrwyd yr ysgol yn 189fed ysgol orau ym Mhrydain yn 2002, yn seiliedig ar gyfleusterau a chanlyniadau arholiadau.[1] Dyma oedd yr ysgol wladol ail orau yng Nghymru yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau yn 2007; gyda 89% o'r myfyrwyr yn llwyddo yn eu harholiadau. Y prifathro presennol yw'r Parchedig C.G. Hollowood, B.Ed., M.A, a gymerodd drosodd oddi wrth Dr. Leonard Parfitt yn 2002.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Top marks for high school. BBC (16 Tachwedd 2002).
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.