Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019
Eisteddfod yr Urdd a gynhlwyd ger Senedd Cymru ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd a'r Fro 2019 ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2019.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2019 |
Lleoliad | Bae Caerdydd |
Cynhaliwyd digwyddiadau yn adeiladau Senedd Cymru gyda'r Senedd yn gartref i'r arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg, tra bu Adeilad y Pierhead yn Bafiliwn y Dysgwyr. Bu rhai o aelodau'r Senedd Ieuenctid Cymru yn weithgar ar eu stondin yn y Senedd.Roedd y trefniant yn debyg, ond llai o faint ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[2]
Enillwyr
golygu- Y Goron - Brennig Davies, o Gwenfo, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Bro Morgannwg myfyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen[3]
- Y Gadair - Iestyn Tyne, Cylch Arfon[4], cerddor a bardd ac enillydd coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir y Fflint 2016
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Tlws y Cyfansoddwr - Siriol Jenkins o Wiseman's Bridge yn Sir Benfro yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen[5] Methodd Siriol ymddangos yn y seremoni yng Nghaerdydd gan bod arholiadau prifysgol ganddi.
- Enillydd y Fedal Gelf - Seren Wyn Jenkins, o Benrhyn-coch a disgybl yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig[6]
- Medal y Dysgwr - Elena Sciarrillo o'r Wyddgrug, o dras Eidalaidd[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Caerdydd a'r Fro". gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.[dolen farw]
- ↑ "Y Senedd yn barod i groesawu Mistar Urdd a'i gyfeillion". Senedd Cymru. 2019. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.
- ↑ "Y Goron yn mynd i Fro Morgannwg". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.[dolen farw]
- ↑ "Eisteddfod Yr Urdd 2019 Y Cadeirio". S4C ar Youtube. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.
- ↑ "Siriol Jenkins yn ennill Y Fedal Gyfansoddi". BBC Cymru Fyw. 27 Mai 2019.
- ↑ "Seren Wyn Jenkins yw enillydd y Fedal Gelf". Golwg360. 2019. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.
- ↑ "Eidales o'r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr". Gwefan yr Urdd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-01. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2023.
Dolenni allanol
golygu- is-wefan Eisteddfod Caerdydd a'r Fro 2019 Archifwyd 2024-06-19 yn y Peiriant Wayback gwefan yr Urdd
- Rhestr Testunau Eisteddfod Caerdydd a'r Fro