Eisteddfod ar yr Awyr

Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1940 ar y radio, dan yr enw Eisteddfod ar yr Awyr neu'n answyddogol yr Eisteddfod Radio.

Eisteddfod ar yr Awyr
Enillydd y Goron atal y wobr
Enillydd y Gadair T. Rowland Hughes
Y Fedal Ryddiaith T. Hughes Jones

Gwnaed hyn yn bennaf, gan mai ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal yr Eisteddfod. Yn anffodus, yno hefyd roedd ffatri gwneud bomiau mwya'r byd, ar y pryd, gyda 37,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno. Ofnwyd fod y dref yn darged i fomiau'r Almaen.[1]

Enillwyd y Fedal Ryddiaeth gan T. Hughes Jones am ei nofel (neu 'stori fer hir) Sgweier Hafila. Kate Roberts oedd y beirniad, a defnyddiodd y genre newydd hwn - y stori fer hir - yn ddiweddarach yn ei gyrfa llenyddol (e.e. Te yn y Grug).

Darlledwyd yr Eisteddfod o stiwdio Bangor - a hynny drwy wledydd Prydain, a bu sawl côr, yn ogystal ag unigolion a phartion yn cystadlu. Rhwystrodd y Rhyfel weithredu'r Rheol Uniaith a ddaeth i rym ym 1937. Oherwydd hynny, siaradodd David Lloyd George yn Saesneg. Yn ei araith dywedodd y frawddeg gofiadwy: "This is the day of the agony of small nations."

Penderfyniad y Llywodraeth golygu

Llywodraeth y DU a wnaeth y penderfyniad i ganslo'r Eisteddfod draddodiadol. Ystyriwyd cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barn y Llywodraeth oedd y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged i awyrenau'r Almaen. Cynhaliwyd pwyllgor brys gyda'r BBC yn bresennol a gwnaeth yr Archdderwydd Cynan gyhoeddiad ar y radio:

"Yn y cyfrwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor a'r BBC i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o raglen Eisteddfod un naw pedwar dim drwy gyfrwng y radio."[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 10 Awst 2016.