Eka Pada Rajakapotasana (Brenin y Colomennod)

asana mewn ioga

Asana neu safle ioga yw Eka Pada Rajakapotasana (Sansgrit: एक पाद राजकपोतासन; IAST: Eka Pada Rājakapotāsana) neu Brenin y Colomennod [Un-goes][1]. Yn y safle hon, mae'r cefn yn plygu yn ei ôl, tra bod y person yn eistedd. Caiff ei defnyddio fel rhan o ymarferion ioga modern fel ymarfer corff. Enw'r asana (neu 'osgo') yma o fewn Ioga Yin yw'r Alarch, a cheir hefyd amrywiad ioga awyr, a gefnogir gyda'r defnydd o hamog, sef Clomen yn Hedfan.

Eka Pada Rajakapotasana
Math o gyfrwngasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad

golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit "eka" (एक) sy'n golygu "un"; "pada" (पाद) sy'n golygu "troed", "raja" (राज) sy'n golygu "brenin", kapota (कपोत) sy'n golygu "colomen"[1]"Eka Pada Raja Kapotasana - AshtangaYoga.info". Cyrchwyd 2011-04-09."Eka Pada Raja Kapotasana - AshtangaYoga.info". Retrieved 2011-04-09.</ref> ac asana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff".[2]

Disgrifir yr ystum yn yr 20g gan ddau o ddisgyblion Krishnamacharya, Pattabhi Jois yn ei Ioga ashtanga vinyasa,[3] a BKS Iyengar yn ei Light on Yoga.[4]

Disgrifiad

golygu

Gan ddechrau o'r eistedd yn Dandasana, mae un pen-glin wedi'i blygu, gan gadw'r pen-glin ar y llawr, felly mae'r droed ychydig o flaen y werddyr, a chymerir y goes arall yn syth yn ôl. Ar gyfer yr asana gorffenedig, mae pen-glin y y goes ôl yn plygu, a'r dwylo'n gafael yn y droed neu'r ffêr gydag un llaw neu'r ddwy law.[4]

Amrywiadau

golygu
  • Brenin y Colomennod gyda chymorth - sef y Salamba Kapotasana, mae'r goes gefn yn syth allan ac mae'r dwylo ar y llawr wrth ymyl y cluniau, felly mae plug yr asgwrn cefn yn cael ei leihau. Os yw'n gyfforddus, efallai y bydd y cefn yn fwaog a'r llygaid yn cael eu cyfeirio'n syth i fyny.[5][6]
  • Yn yr asana Colomen mewn Cwsg (neu'r Alarch yng Nghwsg mewn Ioga Yin[7]), mae'r goes ôl yn syth gyda'r corff a'r breichiau wedi'u hymestyn ymlaen dros y goes sydd ymlaen wedi'i phlygu. Mae'r asana hwn weithiau'n cael ei alw'n "Golomen",[8] ond mae'n osgo hollol wahanol i Kapotasana, gyda'i gefnblyg wrth benglinio.[4][9][10]
  • Yn Ioga Awyr, mae'r osgo Clomen Ehedog yn amrywiad a gefnogir gan hamog gydag un troed wedi'i fachu ar draws blaen yr hamog.

Gweler hefyd

golygu
  • Anjaneyasana, asana y Lleugad Cilgant, sy'n perthyn yn agos, gyda'r droed blaen ar y llawr a'r pen-glin blaen wedi'i godi

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Eka Pada Raja Kapotasana - AshtangaYoga.info". Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
  4. 4.0 4.1 4.2 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. tt. 389–399. ISBN 978-1855381667. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "LoY" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  5. Kirk, Martin; Boon, Brooke (2006). Hatha Yoga Illustrated. Human Kinetics. t. 118. ISBN 978-0-7360-6203-9.
  6. "Salamba Kapotasana". Yogapedia. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2019.
  7. 7.0 7.1 "Swan". Yin Yoga. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2019. Similar Yang Asanas: Proud Pigeon (Rajakapotasana). Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Yin" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  8. Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The Book of Yoga: the complete step-by-step guide. Ebury. tt. 132–133. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  9. 9.0 9.1 Crandell, Jason (17 Mawrth 2016). "Master Sleeping Pigeon Pose in 4 Steps". Yoga Journal. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "YJSleeping" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  10. Rizopoulos, Natasha (16 Gorffennaf 2008). "The King of Hip Openers: Pigeon Pose". Yoga Journal.
  11. Dortignac, Michelle (17 Mehefin 2015). "The Aerial Yoga Sequence: 9 Poses to Defy Gravity". Yoga Journal. Cyrchwyd 4 Mehefin 2018.Dortignac, Michelle (17 Mehefin 2015). "The Aerial Yoga Sequence: 9 Poses to Defy Gravity". Yoga Journal. Retrieved 4 June 2018.