Elan Closs Stephens

Academydd o Gymraes

Academydd o Gymraes yw Elan Closs Stephens DBE (ganed ar 16 Mehefin 1948) ac yn aelod dros Gymru ar fwrdd ymddiriedolwyr y BBC. Mae hi'n arbenigo mewn polisi diwylliannol a darlledu. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, a arweinir gan yr Ysgrifennydd Parhaol.[1]

Elan Closs Stephens
Ganwyd16 Mehefin 1948 Edit this on Wikidata
Tal-y-sarn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
Swyddnon-executive director, Chair of the BBC Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodRoy Stephens Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd yn Talysarn yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville, Rhydychen.

Mae Stephens yn Athro Emeritws Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Mhrifysgol Aberystwyth.[2] Mae hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth er mwyn galluogi prosiectau ymchwil â phartneriaid mewn diwydiant.

Yn 1998, penodwyd Stephens yn gadeirydd Awdurdod S4C gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llundain,[3] a fe'i penodwyd am ail dymor hyd at 2006. Roedd yn Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig tan 2007, a Chadeirydd ei bwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod gwaith adnewyddu y Theatr Ffilm Cenedlaethol, Southbank Centre. Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru y Cyngor Prydeinig tan 2011, a roedd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru, ac ymddiriedolwr/aelod o fwrdd Celfyddydau & Busnes.

Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru fel cadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar Adroddiad Stephens yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Bwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC.[4] Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru.[5] Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.[6]

Rhwng 13 Mawrth 2017 to 12 Mawrth 2021 roedd yn un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.[7]

Ym Mehefin 2023 fe'i penodwyd yn Gadeirydd dros dro y BBC, yn dilyn ymddiswyddiad Richard Sharp. Bydd yn y swydd o 27 Mehefin am 12 mis neu hyd i Gadeirydd newydd gael ei benodi.[8] Ar 22 Chwefror 2024, cyhoeddodd llywodraeth San Steffan mai Dr Samir Shah byddai'r cadeirydd newydd o 4 Mawrth 2024 am bedair blynedd. Felly daeth cyfnod Stephens i ben ar 3 Mawrth 2024.[9]

Anrhydeddau golygu

Derbyniodd Stephens CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2001 am ei gwasanaethau i ddarlledu a'r Gymraeg, a fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2012/13. Yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines 2019, fe'i dyrchafwyd i'r DBE am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu, gan ei wneud yn Fonesig.[10]

Bywyd personol golygu

Priododd Dr Roy Stephens yn 1972 (bu farw yn 1989). Mae gan Stephens ddau o blant sy'n oedolion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Elan Closs Stephens, Non-Executive Director". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016.[dolen marw]
  2. "Elan Closs Stephens". Prifysgol Aberystwyth. Cyrchwyd 20 Medi 2011.
  3. "Elan Closs Stephens". BBC Trust. Unknown parameter |acces-date= ignored (help)
  4. "Elan Closs Stephens". Welsh Assembly Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 20 Medi 2011.
  5.  Penodi aelod dros Gymru ar fwrdd ymddiriedolwyr y BBC. BBC Cymru Fyw (20 Gorffennaf 2017).
  6.  Atal Dr Carol Bell rhag cael ei phenodi i fwrdd y BBC. BBC Cymru Fyw (14 Mawrth 2017).
  7.  Yr Athro Elan Closs Stephens. Comisiwn Etholiadol. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  8. "Penodi'r Athro Elan Closs Stephens yn Gadeirydd dros dro'r BBC". Golwg360. 2023-06-02. Cyrchwyd 2023-06-02.
  9. "Dr Samir Shah CBE is confirmed as the new BBC Chair". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-03.
  10. Athro’n diolch am y dymuniadau da ar gael ei gwneud yn Fonesig , Golwg360, 14 Mehefin 2019. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.

Dolenni allanol golygu