Elfed Lewis Jones
Roedd Elfed Lewis Jones MBE (29 Ebrill 1912 - 5 Hydref 1989) yn chwaraewr Rygbi'r undeb Cymreig y cwtogwyd ar ei yrfa ryngwladol oherwydd dechrau'r Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd rygbi clwb i Lanelli, ac ym 1938 cafodd ei ddewis i fynd ar daith i Dde Affrica gyda thîm Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.[1]
Elfed Lewis Jones | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ebrill 1912 Llanelli |
Bu farw | 5 Hydref 1989 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Asgellwr |
Cefndir
golyguGanwyd Jones yn Llanelli yn blentyn i Elfed Jones a Matilda (née Lewis) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Sir Llanelli. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel clerc Llys Ynadon Llanelli. Ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd ymunodd Jones â'r Llu Awyr Brenhinol gan godi i reng arweinydd sgwadron; derbyniodd Croes Filwrol Gwlad Belg ac yn ddiweddarach dyfarnwyd y MBE iddo.[2]
Gyrfa rygbi
golyguDechreuodd Jones chwarae rygbi fel bachgen ysgol ar gyfer ei ysgol leol, gan ymuno â Llanelli Harlequins fel oedolyn. Erbyn tymor 1932/33 roedd yn chwarae i dîm dosbarth cyntaf Llanelli, gan ddod â’r tymor hwnnw i ben fel prif sgoriwr ceisiau'r tîm, wedi croesi'r llinell 15 o weithiau [3] Jones oedd y prif sgoriwr ceisiau Llanelli yn y tymor canlynol hefyd, gan sgorio 23 o geisiau. Yn nhymor 1934/35 parhaodd Jones i sgorio'n rheolaidd, ond rhagorwyd ar ei gyfri o 16 cais gan ei gyd-asgellwr Bill Clement.[4] Y tymor canlynol, llwyddodd Jones i adennill ei deitl fel y prif sgoriwr ceisiau gydag 20 cais. Ym 1935 wynebodd tîm rhyngwladol am y tro cyntaf wrth i'r tîm teithiol o Seland Newydd ddod i Lanelli ar 22 Hydref 1935. Dewiswyd Jones i wynebu'r twristiaid, er iddo fethu â sgorio yn y gêm a enillwyd 16-8 gan Seland Newydd. Yn ystod tymor 1936-37 dewiswyd Jones yn gapten y tîm, ac arweiniodd y tîm i un o’u tymhorau mwyaf llwyddiannus gan sgorio record o 699 o bwyntiau. Dangosodd Jones ei ymrwymiad i Lanelli a’r gêm amatur trwy wrthod tri ymgais i'w gael i ymuno â Chynghrair broffesiynol y Gogledd, er gwaethaf cynnig iddo ffi arwyddo o £400.[5]
Ym 1938 cafodd ei ddewis i fynd ar daith i Dde Affrica fel rhan o dîm y Llewod o dan arweiniad Bernard Charles Hartley [6] . Er iddo chwarae mewn dim ond 12 o'r 24 gêm ar y daith, Jones oedd sgoriwr y nifer fwyaf o geisiau'r daith gyda deg, gan gynnwys cais cyntaf y Llewod yn erbyn tîm o Dde Affrica, yn nhrydedd Prawf y gyfres.[7] Ddwywaith yn y daith fe sgoriodd hat-tric o geisiau, yn erbyn Ardaloedd y De Orllewin ac yna yn erbyn Rhodesia.[8]
Yn ystod tymor 1938/39, dewiswyd Jones ar gyfer ei unig gap rhyngwladol. Wedi'i ddewis ar gyfer ail gêm Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1938, yn erbyn yr Alban. Er gwaethaf buddugoliaeth o 11-3, disodlwyd Jones ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Iwerddon gan Chris Matthews. Tymor 1939/40 fyddai un olaf Jones cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Dim ond un gêm a chwaraeodd, cyn i Undeb Rygbi Cymru ddatgan bod rygbi cystadleuol yn dod i ben, sef gêm yn erbyn Felin-foel. Jones oedd capten Llanelli ar gyfer yr ornest.[9] Daeth Jones â’i yrfa i ben gyda Llanelli fel un o’u sgorwyr ceisiau uchaf, gyda chyfanswm gyrfa o 129, un o’r ychydig chwaraewyr i fod wedi sgorio dros gant o geisiau i’r clwb.[10]
Wedi'r Rhyfel
golyguWedi'r rhyfel, parhaodd Jones â'i gysylltiad â rygbi a Llanelli trwy ddod yn Gadeirydd y clwb rhwng 1960 a 1967 ac yna gan wasanaethu fel Llywydd y clwb rhwng 1978 a 1981.[11] Yn ei rôl fel Cadeirydd, gwnaeth araith yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol 1964 o Undeb Rygbi Cymru, lle ymosododd ar glybiau’r undeb a thîm Chymru am esgeuluso hyfforddi; a chanolbwyntio gormod ar ffitrwydd corfforol gan esgeuluso sgiliau a thactegau sylfaenol.[12] Aeth ymlaen i honni bod rygbi Cymru ar lefel ryngwladol a chlwb wedi dirywio gyda hyd yn oed chwaraewyr rhyngwladol heb y gallu i drin y bêl yn gywir. Plediodd Jones i Bwyllgor Hyfforddi Cymru gael ei ailgyfansoddi ac i'r Undeb ystyried penodi Hyfforddwr Rygbi swyddogol gyda sawl cynorthwyydd, rhag i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb "ddirywio i fod yn gyfarfod o glybiau cymdeithasol, yn lle rygbi." [13] Ym 1967, penododd Undeb Rygbi Cymru ei hyfforddwr rhyngwladol cyntaf, David Nash. Yn gredwr cyson yng nghynnydd rygbi, yng nghyfarfod blynyddol Clwb Rygbi Llanelli 1964/65, cyhoeddodd yr angen i greu ail dîm "i bontio'r bwlch rhwng y timau Ieuenctid ac Uwch".[14]
(Nodyn: Bu ŵr o'r enw Elvet Jones yn chware rygbi i Gymru ar ôl y rhyfel, ond dyn gwahanol efo enw tebyg bu'n chware i glybiau Caerdydd a Chastell-nedd oedd ef).[15]
Gemau rhyngwladol
golyguCymru:
Yr Alban 1939
Y Llewod
De Affrica , 1938
Llyfryddiaeth
golygu- Griffiths, John (1990). British Lions. Swindon: Crowood Press. ISBN 1-85223-541-1.
- Hughes, Gareth (1986). The Scarlets: A History of Llanelli Rugby Club. Llanelli: Cyngor Bwrdeistref Llanelli. ISBN 0-906821-05-3.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Elfed Lewis Jones". ESPN scrum. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ worldrugbymuseum (2018-10-08). "Flying Lions: Elfed Jones". World Rugby Museum: from the vaults. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ Hughes (1986) tud.131
- ↑ Hughes (1986) tud.133
- ↑ Hughes (1986) tud.139
- ↑ Reuter. "British Tourists Win Again." Daily Telegraph, 16 Mehefin 1938, tud. 20. The Telegraph Historical Archive adalwyd 11 Hydref 2019
- ↑ Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. tt. 86–87. ISBN 1-872424-10-4.
- ↑ Howell, Andy (2016-01-12). "The 25 greatest Scarlets players of all time". walesonline. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ Hughes (1986) tud.144
- ↑ Hughes (1986) tud.246
- ↑ Hughes (1986) tud.257
- ↑ Smith (1980) tud.369
- ↑ Smith (1980) tud.370
- ↑ Hughes (1986) tud.195
- ↑ "Watkin Elvet Jones". ESPN scrum. Cyrchwyd 2019-10-11.