Elfyn Lewis
Arlunydd o Gymru yw Elfyn Lewis (ganwyd 1969).[1]
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|---|
Gwefan | http://www.elfynlewis.com/ |
Fe'i ganwyd a magwyd ym Morthmadog. Mae'n byw yn Grangetown, Caerdydd ers 2002, ond yn dweud bod ei fywyd ym Mhorthmadog yn dal i ddylanwadu ar ei waith.[1]
Arddull
golyguMae paentiadau tirwedd Lewis yn defnyddio paent trwchus, sy'n aml yn diferu dros yr ymylon.[2] Yn 2024 newidiodd ei arddull, gan ddefnyddio llai o liwiau a phaent mwy trwchus, sy'n llifo dros ymylon y gweithiau i ychwanegu dimensiwn 'cerfluniol' newydd.[3]
Anrhydeddau
golyguEnillodd Lewis y Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol 2009, wedyn enillodd Welsh Artist of the Year yn 2010.[2] Etholwyd ef i'r Academi Frenhinol Gymreig, Conwy fel cydnabyddiaeth i'w gyfraniad i'r byd celf Gymreig.[4]
Oriel Gelf Genedlaethol
golyguYn 2017 cefnogodd alwadau ar gyfer Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru gan nodi y gall gwaith cael ei harddangos yno yn ogystal ag yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Nododd y byddai hynny'n cryfhau hunaniaeth genedlaethol Gymreig ac y gallai atynnu gwaith celf ryngwladol. Dywedodd hefyd y gallai'r adeilad fod yng Nghaerdydd neu man arall a dangos peth o gasgliad "anferthol" yr Amgueddfa Genedlaethol nad yw i'w gweld i'r cyhoedd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Elfyn Lewis: What Motivates Me? Enjoyment. Wales Arts Review (22 Awst 2023). Adalwyd ar 2 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) White, Kevin (24 Mehefin 2010). Porthmadog’s Elfyn Lewis is Welsh artist of the year. North Wales Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2024.
- ↑ (Saesneg) Price, Stephen (26 Mai 2024). Elfyn Lewis discusses the quietness of his ’sculptural’ new paintings. Nation.Cymru. Adalwyd ar 3 Awst 2024.
- ↑ "a brief biography". Gwefan Elfyn Lewis. Cyrchwyd 14 Awst 2024.
- ↑ "Artist Elfyn Lewis backs National Gallery for Wales idea". Gwefan BBC Wales News. 23 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- @ElfynLewis cyfrif Instagram Elfyn Lewis