Eli Babi (panto)

(Ailgyfeiriad o Eli Baba (panto))

Pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru o 1978/79 yw Eli Babi. Dyma'r wythfed panto ar gyfer plant Cymru, a gyflwynwyd yn flynyddol gan Cwmni Theatr Cymru ers Mawredd Mawr ym 1971. Cyfansoddwyd y sioe gan Wilbert Lloyd Roberts a Grey Evans a'r gerddoriaeth gan Dilwyn Roberts. Cynllunydd y panto oedd Martin Morley.

Eli Babi
Enghraifft o'r canlynolpantomeim
Dyddiad cynharaf1978
AwdurWilbert Lloyd Roberts a Grey Evans
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Lleoliad y perff. 1afTheatr Gwynedd Bangor
Dyddiad y perff. 1af19 Rhagfyr 1978
CyfansoddwrDilwyn Roberts

Disgrifiad byr

golygu

Sioe gerddorol gomig wedi'i seilio ar stori y Ali Baba And The Forty Thieves.

Cefndir

golygu

Dilwyn Roberts, cyfansoddwr a cyfarwyddwr cerdd y panto, sy'n hel atgofion ar ei wefan[1]: "...ar Hydref 2il, cefais gyfarfod gyda Wilbert Lloyd Roberts, cyfarwyddwr Cwmni Theatr Cymru ynghylch y panto ar gyfer 1978-79. Soniodd fod sgript wedi ei ysgrifennu a'i fod yn ystyried Emyr [Gari Williams] ar gyfer prif rôl yn y cynhyrchiad", ychwanegodd.

"Wythnos yn ddiweddarach, [...] derbyniais alwad ffôn gan Emyr i gadarnhau ei fod wedi cytuno [...] Dechreuodd yr ymarferion ar Dachwedd 21ain a’r cast oedd fel a ganlyn: Gari Williams, Sue Roderick, John Pierce Jones [...] Tony Jones [Tony ac Aloma], [Ifan] Huw Dafydd, Mal Henson, Dafydd Hywel a Marion Fenner. Parhaodd yr ymarferion am 4 wythnos gyda'r actorion yn datblygu eu cymeriadau tra dysgais iddynt y caneuon roeddwn wedi eu hysgrifennu ar gyfer y sioe. [...] Ar Ragfyr 15fed, llwyfannodd y cwmni y perfformiad technegol cyntaf ac erbyn diwedd y dydd, roedd yn amlwg bod y sioe yn llawer rhy hir. Roedd angen golygu'r sgript yn sylweddol felly bu Wilbert yn gweithio gyda'r cyfarwyddwr, Grey Evans ar ail-ysgrifennu. Y diwrnod canlynol, cyfarfu'r actorion a'r technegwyr i ddarllen y sgript olygedig. Roedd ambell doriad wedi ei wneud ond dim digon. Roedd y sioe yn agor am 7 o'r gloch nos Fawrth, Rhagfyr 19eg! Parhaodd Wilbert a Gray i weithio drwy'r penwythnos, gan gynhyrchu hanner cyntaf y sioe wedi'i ailysgrifennu'n llwyr. Roedd un olygfa wedi'i golygu i lawr i araith fer gan y Wrach (Sue Roderick). “Mae hon yn sefyllfa anodd iawn”, meddai Emyr, “os na fydd y gynulleidfa’n talu sylw i’r araith honno, ni fydd y panto yn gwneud unrhyw synnwyr iddyn nhw”.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Eli Babi
  • Cassim - ei frawd

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y pantomeim ar ddiwedd 1978 a dechrau 1979. Cyfarwyddwr Grey Evans; cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts; cynllunydd Martin Morley; cast:


"Er gwaetha'r problemau sgript, cafodd y panto dderbyniad da gan y Wasg Gymraeg', ebe Dilwyn Roberts, cyfarwyddwr cerdd y panto; "Ysgrifennodd beirniad theatr y papur newydd wythnosol, Y Cymro, “Yr arwr oedd Eli Babi, a chwaraewyd gan Gari Williams, a weithiodd yn galed iawn i achub y panto er gwaethaf y sgript wan.” Roedd canmoliaeth hefyd i Dafydd Hywel ac i'r band, "...roeddent yn gaffaeliad gwerth chweil i'r noson". Ond i'r beirniad hwn, rhoddwyd y clod uchaf i gynllunydd y gwisgoedd a'r gŵr bonheddig a beintiodd y set, Mr. Charles Williams."[1]

"Ar ôl pythefnos ym Mangor, aethom ar daith arall o amgylch Cymru gan ddechrau yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ac yna Theatr y Werin Aberystwyth, Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, Canolfan Adloniant Llanelli, Theatr Ardudwy, Harlech. Neuadd y Dref, Pwllheli, Neuadd y Dref, Maesteg. Daeth y daith i ben ar Chwefror 23ain yn Ysgol Uwchradd Abergwaun."[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979)". Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.