Actores o Gymraes sy'n fwyaf adnabyddus am bortreadu Metron Doreen Bevan yn y gyfres Pobol y Cwm yw Marion Fenner (ganwyd 1952). Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a'r sgrin yng Nghymru ers y 1970au. Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru ym 1978 ac ymddangosodd mewn cynyrchiadau o ddramâu fel Esther, Sál a sawl pantomeim gan gynnwys Eli Babi, Mwstwr Yn Y Clwstwr a Rasus Cymylau. Cyhoeddodd ei hunangofiant Ŵ, Metron yn 2014 a gyhoeddwyd gan Y Lolfa.[1]

Marion Fenner
GanwydMarion Fenner
1952
Cwmllynfell
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
PlantHeledd Owen

Fe'i ganed yng Nghwmllynfell. Hyfforddodd fel athrawes a bu'n dysgu yn Ysgol Gynradd Trebanos am saith mlynedd cyn ail-hyfforddi fel actores yn y Coleg Brenhinol Cerdd A Drama Cymru yn y 1970au.[2]

Ym 1982 ymunodd â chast Pobol y Cwm fel Metron Doreen Probert. Arhosodd fel rhan craidd o'r gyfres hyd at 1996, gan ddychwelyd ym 1999 am ail gyfnod. Rhwng cyfnodau ar yr opera sebon bu'n gwerthu colur a persawr yn Nghaerdydd. Mae Marion yn ymddangos yn aml ar Prynhawn Da ar S4C yn rhannu gwybodaeth a thipiau harddwch.

Theatr

golygu
 
Cast y sioe Mwstwr Yn Y Clwstwr (1979)

Teledu A Ffilm

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Y Lolfa".
  2. "Marion Fenner". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-12.