Mawredd Mawr (pantomeim)

(Ailgyfeiriad o Mawredd Mawr (panto))

Y pantomeim Cymraeg cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yw Mawredd Mawr a lwyfannwyd ar ddiwedd 1971. Yn ogystal ag actorion craidd y Cwmni Theatr fel Sharon Morgan, Marged Esli, Dyfan Roberts a Dewi Pws, ymunwyd â hwy gan sêr y byd pop Cymraeg ar y cyfnod fel Tony ac Aloma a Rosalind Lloyd, un hanner o'r ddeuawd ddiweddarach, Rosalind a Myrddin. Daeth Beryl Hall a'i chi 'Ben' yn ran ddiharebol o'r cynhyrchiad yn ogystal â'r actor Wynford Elis Owen yn portreadu'r cymeriad dame 'Fairy Nyff' a chyd-gyfarwyddo'r sioe gyda Lyn [T] Jones.[1]

Mawredd Mawr
Dyddiad cynharaf1971
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathPantomeim Gymraeg

Cymeriadau

golygu
 
Golygfa o'r Panto Mawredd Mawr (1971) Dylan Jones a Beryl Hall
  • Fairy Nyff
  • Tywysoges
  • Siencyn
  • Ianto
  • Gwrach
  • Brenin Cwallter Caswallon
  • Brenhines Martha

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Sharon Morgan yn paratoi ar gyfer Mawredd Mawr gan Cwmni Theatr Cymru 1971 (llun Geoff Charles)
 
Cwmni Theatr Cymru yn perfformio Mawredd Mawr ym 1971
 
Tony ac Aloma ym mhantomeim Cwmni Theatr Cymru Mawredd Mawr 1971

Llwyfannwyd a chrëwyd y pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru ym 1971. Cyfarwyddwyr Wynford Ellis Owen a Lyn T Jones; cast:

 
Wynfford Ellis Owen, Dyfan Roberts a Dewi Pws

"Oherwydd 'mod i'n brysur yn rhoi'r sioe at ei gilydd, welodd run o'r cast y cymeriad 'Fferi Nyff' yn ei gyfanwydd, nes i ni gyrradd y dress rehearsal ddiwrod cyn y perfformiad cynta yn Neuadd John Phillips, Coleg y Normal, Bangor", cofiodd Wynford Ellis Owen yn ei hunangofiant;

"Er nad odd 'Nyff' yn dweud fawr ddim drwy'r pantomeim, ro'dd o ar y llwyfan yn ymateb i bopeth, bron, o'r dechra i'r diwedd. Ac, wrth gwrs, yn yr ymateb mae'r hiwmor BOB amser! Dros nos, felly, ac yn gwbl annisgwyl, daeth 'Fferi Nyff' i fod yn seren y sioe. Tylwythen Annheg odd 'Nyff'. Ro'dd rhwbath wedi mynd o'i le yn ystod rhyw swyn neu'i gilydd, ac fe'i ganwyd i'r byd - yn llabwst dros chwe throedfedd, gydag un aden drwsgl ar ei gefn, twtw o gwmpas ei ganol, teits amryliw am ei goesa main, sgidia troi-fyny, a mop o wallt cyrliog melyn, a cheg o'dd wedi'i gor-baentio hefo minlliw coch. Roedd amheuaeth ynglŷn â'i rywioldeb, hefyd - a siaradai'n ferchetaidd, gyda llais uchel, main wrth ffeilio'i ewinedd ag un llaw a chwifio ffon hud â'r llall. Ro'dd ganddo wastad fag anferth am ei wddf, hefyd, ac yn y bag yma byddai pob math o drugareddau. 'Fel mae'n dig-wydd!' fyddai'i gri o hyd, a byddai 'Nyff' yn tynnu'r pethau rhyfedda fel cwningen o het i achub y dydd. Er nad o'dd 'Fferi Nyff' yn dweud rhyw lawer fel cymeriad ar y dechrau, yn fuan iawn wrth i'r daith fynd rhagddi, dechreuais ychwanegu ambell linell yma a thraw - a dim un ohonyn nhw wedi'u sgriptio. Nid oedd hyn at ddant pawb - yn arbennig Iona Banks o'dd yn chwarae rhan y wrach hyll, ac yn genfigennus, braidd, fod 'Nyff' yn cael y chwerthiniadau i gyd. Aeth at Wilbert i gwyno, un diwrnod ac, yn naturiol, daeth Wilbert i gyfleu'r gŵyn i mi. "Cadwch at y sgript, Wynford", medda Wilbert yn ei ffordd ddi-stwr arferol, "ac mi fydd popeth yn iawn wedyn, fachgian!"" [1]

Collodd Wynford Ellis Owen ei dad (y Parchedig Robert Owen, Llanllyfni) yn ystod taith y cynhyrchiad, a bu hynny'n sbardun i waethygu ei ddibyniaeth ar alcohol ar y pryd. "Fedrwn i ddim galaru'n iawn. Cymerwyd y gallu hwnnw oddi arna i gan y tawelyddion a'r alcohol. Roedd fy synhwyrau wedi'u mygu, fy ngallu i deimlo wedi'i afradloni", eglurodd yn ei hunangofiant. "Ond unwaith y byddwn i ffwrdd oddi wrthi [Meira ei wraig] ar daith, byddwn yn colli rheolaeth yn syth ac yn meddwi. Roedd fy stumog yn achosi poen dirdynnol i mi erbyn cynod y pantomeimiau, ac alcohol o'dd yr unig beth o'dd yn lleddfu rhyw 'chydig arno. Erbyn y bore, sut bynnag, fel popeth arall, byddai'r boen yn waeth gan fy ngorfodi i ddechrau ar y meri-go-rownd gwallgo drachefn. Meri-go-rownd gwallgo oedd yn achosi bod fy ymddygiad, hefyd, yr un mor wallgo."[1]


Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer. ISBN 1 84323 362 2.