Eilian

sant Cymreig
(Ailgyfeiriad o Elian)

Sant cynnar o ogledd Cymru oedd Eilian (weithiau Elian, hefyd Eilian Geimiad) (fl. 6g?).[1] Ei ddydd gŵyl yw 13 Ionawr.

Eilian
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd560 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl13 Ionawr Edit this on Wikidata
MamSantes Canna Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad

golygu

Yn gyfoeswr i'r seintiau Cybi a Seiriol, fe'i cysylltir ag Ynys Môn a chantref Rhos (Sir Conwy). Yn ôl rhai o'r achau traddodiadol, roedd yn fab i'r Santes Canna. Roedd yn nai i Sant Tegfan, a ymsefydlodd ym Môn.[1]

Eglwysi

golygu

Sefydlodd eglwys yn Llaneilian, Môn. Ceir hen goffr derw 'Cyff Eilian' yn yr eglwys, a ddefnyddid i gadw offrymau iddo. Ceir Ffynnon Eilian ger y traeth yn Llaneilian, lle arferid bendithio da byw.[1]

Cysylltir ef â Chapel Sant Trillo, Llaneilian-yn-Rhos (yn Sir Conwy heddiw), a fu'n enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian (arall), sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd o gwmpas hyd at ddechrau'r 20g fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan swyn i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon. Cyfeiria'r hynafiaethydd Thomas Pennant ati yn ei lyfr Tours in Wales.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tt. 223-234.