Eliezer Pugh
Diwydiannwr a dyngarwr o Gymru oedd Eliezer Pugh (28 Mehefin 1815 – 8 Rhagfyr 1903).
Eliezer Pugh | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1815 Dolgellau |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1903 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | diwydiannwr, dyngarwr |
Cefndir
golyguGanwyd Pugh yn Nolgellau yn blentyn i Edward Pugh, teiliwr, ac Elizabeth née Ellis ei wraig. Cafodd ei fedyddio yng Nghapel Salem, y Methodistiaid Calfinaidd, Dolgellau ar 14 Gorffennaf 1815 gan y Parch Robert Griffith.[1]
Gyrfa
golyguYn 13 mlwydd oed symudodd Pugh i Lerpwl er mwyn mynychu ysgol. Wedi cyfnod yn yr ysgol fe aeth yn brentis i gwmni masnachwyr cotwm Rushton a Johnson. Arhosodd gyda'r cwmni am weddill ei fywyd gwaith gan godi'n bartner ac yna'n brif berchennog y cwmni.[2] Roedd yn gwmni hynod lwyddiannus. Trwy lwyddiant y busnes daeth Pugh yn un o'r Cymry Cymraeg cyfoethocaf yn Lerpwl.[3] Ymddeolodd o'i gwaith ym 1880 a gwariodd gweddill ei oes yn dawel a neilltuedig.[2]
Wedi ei fagu ar aelwyd Galfinaidd arhosodd Pugh yn driw i'r achos wedi symud i Lerpwl. Ymunodd a chapel Cymraeg Pall Mall, pan agorodd Capel Mullbury Street ymunodd a'r achos yno gan gael ei godi'n un o flaenoriaid y capel ym 1857. Cafodd ei godi'n flaenor ar yr un diwrnod a Dr Thomas Gee un o feddygon amlycaf y ddinas a brawd i'r cyhoeddwr Thomas Gee. Ym 1860 symudodd y capel i adeilad newydd yn Chatham Street ac yno bu Pugh yn aelod ac yn flaenor am weddill ei oes. Cyfrannodd filoedd o bunnoedd yn ddienw at gostau adeiladu Capel Chatham Street sydd heddiw yn rhan o gampws Prifysgol Lerpwl.[3]
Roedd gan y Methodistiaid Calfinaidd cenhadaeth gyffredinol i roi cymorth ymarferol ac i efengylu ymysg y tlawd a'r ddifreintiedig yn Lerpwl. Teimlai nifer o'r Calfiniaid Cymraeg bod y genhadaeth yn methu nifer o'r Cymry anghenus gan fod ei waith i gyd trwy'r Saesneg. Penderfynwyd creu genhadaeth Cymraeg yn y ddinas a chymerodd Pugh y cyfrifoldeb am ariannu a gweinyddu holl waith y genhadaeth yn ardal Kent Street.[4]
Roedd yn gefnogwr brwd a chyfrannwr hael i waith cenhadaeth tramor y Methodistiaid Calfinaidd yn yr India. Wedi ei farwolaeth cyflwynodd ei gartref yn 16 Faulkner Street i'r genhadaeth dramor ac yno fu ei phencadlys hyd 1969 pan symudwyd y pencadlys i Gaerdydd.[3]
Tu allan i faes crefydd roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg. Roedd yn danysgrifiwr i ac yn aelod o bwyllgor tanysgrifwyr y Coleg Normal Bangor.[5]. Bu hefyd yn gefnogwr i'r syniad o sefydlu Prifysgol yng Nghymru a phan agorwyd Prifysgol Aberystwyth addawodd £50 y flwyddyn i gronfa'r ysgoloriaethau i alluogi pobl addawol o gefndiroedd difreintiedig i fynychu'r coleg.[6] Ym 1874 rhoddodd cyfraniad o £2,300 at glirio dyledion sefydlu'r Brifysgol[7] a £300 arall at y gost o dalu am brynu Gwesty'r Castell fel cartref i'r coleg (Adeilad Yr Hen Goleg, bellach).[8] Rhoddai wobr o £5 pob blwyddyn i'r myfyriwr gorau yn arholiad Saesneg Coleg y Bala.[9]
Teulu
golyguYm 1843 priododd Eliezer Pugh a Mary Mills o Lanidloes, ni fu iddynt blant eu hunain ond fe wnaethant magu nai a nith amddifad Mrs Pugh, Anna a James Mills. Bu farw Mrs Pugh ym 1883[10].
Marwolaeth
golyguBu farw Pugh yn ei gartref, 16 Falkner St. Lerpwl yn 88 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion gyda rhai ei ddiweddar wraig ym mynwent Toxteth Park.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Archif Genedlaethol Cyf RG 4/3473 Cofrestrau all-blwyfol 1837 a 1857; Capel Salem, Dolgellau 1815
- ↑ 2.0 2.1 "LIVERPOOL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1903-12-23. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 D. Ben Rees (gol) Vehicles of Grace and Hope: Welsh Missionaries in India, 1800-1970. William Carey Library, 2002. ISBN 9780878085057
- ↑ "CENHADAETH DREFOL GYMREIG LIVERPOOL - Y Goleuad". John Davies. 1870-10-08. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "BANGOR NORMA LCOLLEGE - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1873-07-12. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "IUNIVERSITY COLLEGE OF WALES - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1873-10-24. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "THE UNIVERSITY COLLEGE OF WALES - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1874-06-26. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "COLLEGE BUILDING DEBT - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1874-10-31. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "ARHOLIAD ATHROFA Y BALA - Y Goleuad". John Davies. 1877-06-09. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ "Y ddiweddar Mrs Eliezer Pugh - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1898-02-24. Cyrchwyd 2020-01-29.
- ↑ Toxteh Park Cemetery Inscriptions M 24 PUGH. (G.G.481)