Mae Elizabeth Maruma Mrema (ganwyd 5 Ionawr 1957) yn gyfreithiwr materion bioamrywiaeth Tansanïaidd, a oedd yn 2023 yn gweithio ym Montreal, Canada. Penodwyd hi'n ysgrifennydd gweithredol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn 2020.[1][2] Hi yw'r fenyw Affricanaidd gyntaf i ddal y rôl hon;[1] cyn hynny bu ganddi nifer o swyddi lle roedd yn arwain, gan gynnwys Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

Elizabeth Mrema
Ganwyd5 Ionawr 1957 Edit this on Wikidata
Moshi Urban Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Tansanïa Tansanïa
Alma mater
  • Prifysgol Dar es Salaam
  • Prifysgol Dalhousie
  • Centre for Foreign Relations Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwas sifil, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Ryngwladol Kew Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Derbyniodd Mrema Radd Faglor yn y Gyfraith o Brifysgol Dar-es-Salaam yn Tansania, ac yna gradd Meistr yn y Gyfraith o Brifysgol Dalhousie yn Halifax, Canada a Diploma Ôl-raddedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Diplomyddiaeth o'r Ganolfan Cysylltiadau Tramor a Diplomyddiaeth yn Dar-es-Salaam, Tansania.[3]

Gyrfa golygu

Cyn dechrau gweithio gyda Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP), bu Mrema'n gweithio i Weinyddiaeth Materion Tramor a Chydweithrediad Rhyngwladol Tansania, gan wasanaethu fel Cwnselydd/Uwch Gwnsler Cyfreithiol.[4] Bu hefyd yn darlithio mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Diplomyddiaeth Cynadledda yng Nghanolfan Cysylltiadau Tramor a Diplomyddiaeth Tansania.[4]

Rhwng 2009 a 2012, bu'n gweithio mewn sefydliadau yn Bonn, yr Almaen.[4] Yn 2009, fe’i phenodwyd yn Ysgrifennydd Gweithredol Dros Dro UNEP/ASCOBANS (Gwaith ar anifeiliaid morol y Baltig, Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd, Iwerddon a’r Gogledd) bu'n Ysgrifennydd Gweithredol UNEP/Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn ar Gadwraeth Rhywogaethau Mudol Anifeiliaid Gwyllt (CMS), ac Ysgrifennydd Gweithredol Dros Dro Cytundeb UNEP/Gorila.[4]

Gwaith proffesiynol arall golygu

Yn ogystal â rolau arwain, mae Mrema wedi gwasanaethu fel darlithydd pro bono yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Nairobi, ac yn flaenorol darlithiodd pro bono yn Sefydliad Cyfraith Datblygu Rhyngwladol (IDLO), Rhufain, yr Eidal.[4]

Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar gyfraith amgylcheddol ryngwladol ac wedi datblygu llawlyfrau a chanllawiau dylanwadol ar gyfer cytundebau amgylcheddol amlochrog yn ogystal â phynciau eraill ar gyfraith amgylcheddol.[4]

Anrhydeddau a gwobrau golygu

Yn 2007, derbyniodd Wobr Rheolwr Gorau'r Flwyddyn UNEP, y gyntaf erioed (Gwobr Staff Baobab UNEP) "am berfformiad eithriadol ac ymroddiad tuag at gyflawni nodau UNEP".[4]

Yn 2021, dyfarnodd Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur sef IUCN (drwy WCEL), mewn cydweithrediad â Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), Wobr Nicholas Robinson iddi am Ragoriaeth mewn Cyfraith Amgylcheddol.[5]

Yn 2022, dyfarnwyd Medal Ryngwladol Kew i Elizabeth gan y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew am ei “gwaith hanfodol yn hyrwyddo pwysigrwydd cadwraeth bioamrywiaeth ac arwain y mecanwaith cyfraith ryngwladol bwysicaf ar gyfer defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Mallapaty, Smriti (2020-06-30). "The biodiversity leader who is fighting for nature amid a pandemic" (yn en). Nature. doi:10.1038/d41586-020-01947-9. https://www.nature.com/articles/d41586-020-01947-9.
  2. "UN launches biodiversity talks on deal to protect nature". France 24 (yn Saesneg). 2022-03-14. Cyrchwyd 2022-03-23.
  3. "Executive Secretary of the Secretariat of the Convention on Biological Diversity". United Nations Secretary-General (yn Saesneg). 2019-12-02. Cyrchwyd 2020-07-01.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Environment, U. N. (2017-10-17). "Elizabeth Mrema". UNEP - UN Environment Programme (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-01.
  5. Unit, Biosafety (2021-08-05). "Executive Secretary". www.cbd.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-28.
  6. "UN biodiversity chief Elizabeth Maruma Mrema awarded Kew International Medal | Kew". www.kew.org. Cyrchwyd 2022-12-06.