Athrawes Ysgol Fôr yng Nghaernarfon oedd Ellen Edwards (neé Francis) (1810 - 24 Tachwedd 1889). Am dros hanner can mlynedd y bu hi (ynghyd a'i chwaer a'i merch) yn cynnal sefydliad llwyddiannus yn nhref Caernarfon.

Cei Caernarfon yn amser ysgol fôr Ellen Edwards (tua 1850). Llun Hugh Hughes

Fe'i ganwyd yn Amlwch, Môn. Bu ei thad, y Capten William Francis, yn forwr byd yno cyn ymddeol yn 1814 wrth i ryfel Napoleon gwneud y fenter yn rhy beryglus iddo. Wrth ymddeol fe'i perswadiwyd gan ei wraig i agor ysgol fôr a mordwyo i fechgyn ifainc yr ardal. Bu'r ysgol yn llwyddiant mawr. Sicrhaodd y Capten Francis bod ei blant ei hun yn hyddysg mewn mathemateg a mordwyo. Wrth i'r ysgol dyfu, cymerodd un mab, a oedd yn fethedig ac yn anabl i fynd i'r môr ei hun, yn gynorthwyydd iddo. O ganlyniad, agorwyd ysgol arall yng Nghaernarfon i ateb y galw yno, gydag Ellen wrth y llyw. Tua 20 oed oedd hi ar y pryd. Yn New Street oedd ei chartref a'r ysgol. Tybia T.M. Hughes yn ei fywgraffiad (2010)[1] i'r ysgol fod yn llwyddiant mawr. Erbyn cyfrifiad 1841 mae ei chwaer, Lydia (25 oed), a ddisgrifir, fel Ellen ei hun, yn "Ysgolfeistres", yn byw yn yr un cyfeiriad. Ar ddiwrnod y cyfrifiad 'roedd gwr Ellen, y Capten Owen Edwards i ffwrdd, ond mi 'roedd eu merch Ellen Francis Edwards yno.

Tynnwyd Ellen a'r ysgol i drobwll Frad y Llyfrau Gleision (1847). Fe'i targedwyd gan ddau eglwyswr lleol - Y Parchedig Thomas Thomas, Ficer Llanbeblig a James Foster, Prifathro'r Ysgol National lleol. Yn ogystal â bod yn eglwyswr, yn ôl patrwm y cyfnod 'roedd Foster yn Dori rhonc ac yn wrthwynebus i ryddfrydiaeth ac ymneilltuaeth gyhoeddus a brwd William tad Ellen. Yn yr adroddiad awgrymir nad oedd modd disgwyl addysg wyddonol gan "hen wraig o Gaernarfon" ac fe bwysleisir ei henwad crefyddol. Dim ond 37 oed oedd Ellen ar y pryd. Cymysg oedd ymateb y genedl i'r Llyfrau, ond daeth nifer o bobol ddylanwadol i ennill gan Ellen, gan gynnwys nifer o gapteiniaid llwyddiannus a dderbyniodd eu haddysg ganddi - a'r athro lleol John Wynne (awdur Sir a Thref Caernarfon[2]). Ceir cyfeiriadau cyson i lwyddiant disgyblion yr ysgol yn y Carnarvon & Denbigh Herald[3] yn ystod yr 1850au. Ambell flwyddyn graddiodd cymaint â 30 o ddisgyblion o'r ysgol.

Diwedd Oes

golygu

Priododd Ellen Frances Edwards (merch Ellen Edwards) gyda'r Capten John Evans yn Eglwys Llanbeblig yn 1853. Erbyn hynny mi roedd yn cynorthwyo’i mam yn yr ysgol ac yn araf bach cymerodd gwaith rhedeg y sefydliad. Boddwyd Owen Edwards (o fwrdd ei long y St Patrick) ger Bae Colwyn mewn storm yn 1860. Roedd yn 47 oed. Erbyn 1880, ac Ellen bellach wedi ymddeol, ceisiodd Syr Llywelyn Turner (cyn maer tref Caernarfon) ennill pensiwn parhaol iddi am ei 50 mlynedd o wasanaeth. Bu ei ymdrech yn ofer - ond fe dderbyniodd un taliad am £75 o gronfa'r "Royal Bounty"[4]. Bu farw Ellen yn ei chartref yn Stryd y Degwm, Caernarfon, ar 24 Tachwedd 1889, yn 79 mlwydd oed. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llanbeblig ar y 27ain. Cyhoeddwyd ei chofiant yn y Carnarvon & Denbigh Herald ar y 29ain[5].

Lluniwyd cerdd coffa iddi gan Madog[1].

Distaw weryd Mrs. Edwards dirion
A gywir gerir, gwraig o ragorion.
Athrawes oedd i luoedd o lewion,
Y rhai uwch heli wnânt eu gorchwylion.
Urddas gaed trwy addysg hon. - Ni phaid llu
Môr ei mawrygu tra murmur eigion.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Hughes, T.M. (2010). "Teacher of Navigation". Caernarfon Ddoe. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
  2. Wynne, John (1861). "Hanes Sir a Thref Caernarfon". Carnarvon Traders. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
  3. "Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
  4. Travis, Alan (3 Mehefin 2002). "Scrapped, the secret funds that few knew existed". The Guardian. Cyrchwyd 21 Chwefror 2019.
  5. "Death of a remarkable old lady at Carnarvon". Carnarvon & Denbigh Herald: tud 5. 29 Tachwedd 1889. https://newspapers.library.wales/view/3766029/3766034.