Elwyn Brook-Jones
Roedd Elwyn Brook-Jones (11 Rhagfyr 1911 - 4 Medi 1962) yn actor, cerddor a phianydd o Gymru.
Elwyn Brook-Jones | |
---|---|
Brook Jones yn Garry Halliday | |
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1911 Sarawak |
Bu farw | 4 Medi 1962 Reading |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, pianydd, actor teledu |
Cefndir
golyguGanwyd Brook-Jones yn Sarawak, Maleisia yn blentyn i John Samlet Brook Jones a Mary (née John) ei wraig. Roedd gan y teulu gwreiddiau dwfn yn Llansamlet a Chaerffili. Pan oedd yn blentyn yn Maleisia roedd Brook-Jones yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd a Maleieg yn y gymuned felly pan oedd yn 5 mlwydd oed danfonwyd yn ôl i Gymru i ddysgu Saesneg. Cafodd ei fagu gan ei fodryb, Catherine John, pennaeth Ysgol Merched Caerffili. Roedd yn un o sylfaenwyr cwmni drama amatur Caerffili ac roedd yn aelod o gôr Eglwys St Martin yn y dref [1]. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gyda'r bwriad o gael gyrfa yn y gwasanaeth diplomyddol.
Bywyd personol
golyguYm 1940 priododd Brook-Jones â Mary Julia Behrend, Sandham, merch Mr. a Mrs. J. L. Behrend, Grey House, Burghclere, Newbury.[2]
Cymerwyd Brook-Jones yn sâl tra roedd yng nghanol recordio cyfres 1962 o Garry Halliday, cymerwyd ef i ysbyty Reading lle fu farw yn 50 oed.[3]
Gyrfa
golyguCyflwynodd Brook-Jones ei berfformiad proffesiynol cyntaf fel pianydd yn Awstralia pan oedd yn 11 mlwydd oed.[3] Wedi ymadael a'r brifysgol ymunodd Brook-Jones a chwmni theatr deithiol a oedd yn perfformio darnau melodrama. Ym 1934 aeth i'r Unol Daleithiau am chwe mis i berfformio mewn sioe cabaret. Wedi dychwelyd i ynysoedd Prydain ymunodd a'r Croydon Repertory Company. Bu'n perfformio efo nifer o gwmnïau theatr sefydlog hyd 1940 pan sefydlodd ei gwmni ei hun "The Little Theatr Threshold Club". Cwmni Brook-Jones oedd yr unig gwmni theatr i chware dramâu dwys yn ystod cyfnod y Blitz yn Llundain ym 1940-1941, roedd pob cwmni arall yn perfformio darnau ysgafn. Ar ôl teithio'r rhanbarthau gyda'i gwmni dychwelodd i Lundain ym 1943 i chware rhan y Barnwr Brack yn nrama Ibsen Hedda Gabler yn y Westminster Theatre efo cwmni'r Mercury Players.[4] Bu wedyn yn actio'n rheolaidd mewn perfformiadau mawr yn y West End. Ymysg rhai o'i roliau mwyaf amlwg ar y llwyfan oedd:
- Edward Scarlet yn Duet for Two Hands gan Mary Hayley Bell
- Kroll yn Rosmersholm gan Henrik Ibsen
- General Burgoyne yn The Devil's Disciple gan George Bernard Shaw
- Y Cerfiwr (arweinydd gang sy'n cerfio ar gyrff pobl) yn y sioe gerdd The Crooked Mile gan Peter Greenwell a Peter Wildeblood [5]
- Yr hen satyr yn Miss Turner's Husband gan Gilbert Wakefield [6]
- Yr ymerawdwr yn The Praying Mantis gan J. L. Campbell yn chware gyferbyn Joan Collins, fel y fenyw ifanc diniwed [7]
Teledu
golygu- Rope (ffilm teledu 1947) – Rupert Cadell
- Musical Chairs (ffilm teledu 1947) – Wilhelm Schindler
- Henry IV (ffilm teledu 1947) – Y Barwn Tito Belcredi
- The Infernal Machine (ffilm teledu 1947)
- BBC Sunday-Night Theatre (cyfres deledu)
- Festival Drama: Saint Joan (1951) – Duke de la Trémouille
- Festival Drama: The Way of the World (1951) – Petulant
- The Life and Death of King John (1952) – Cardinal Pandulph
- The Life and Death of King John/II (1952) – Cardinal Pandulph
- The Trial of Admiral Byng (1958) – Dug Newcastle
- The Picnic at Sakkara (1959) – Dean Abbas el-Haki
- Two Pigeons Flying High (ffilm teledu 1955) – Ta–jin
- David Copperfield (cyfres deledu 1956) - Mr Creakle
- Douglas Fairbanks, Jr., Presents (cyfres deledu 1956) – Tunan
- The Condemned (ffilm teledu 1956) – Minister of the Interior
- The Count of Monte Cristo (cyfres deledu 1956) – Palamas
- Saturday Playhouse (cyfres deledu 1958) –The Duke of Lamorre
- Sword of Freedom (cyfres deledu 1957)
- The Woman in the Picture (1957) – Francesco Giocondo
- Alessandro (1957) – De Bassi
- The New Adventures of Martin Kane (cyfres deledu 1957) – Bowker
- The Schirmer Inheritance (cyfres deledu 1957) – Colonel Chrysantos
- The Power and the Glory (ffilm teledu 1957) – pennaeth yr heddlu
- Dead Easy (ffilm teledu 1957) – Steele
- The Adventures of Aggie (cyfres deledu 1957) – The Baron
- Ivanhoe (cyfres deledu 1958) – Sir Wendell
- Television Playwright (1958) – Mr. Pheeming
- ITV Play of the Week (cyfres deledu)
- The Secret Agent (1959) – Vladimir
- No. 17 (1958) - Mr Brant
- The Four Just Men (cyfres deledu 1959) – Scheye
- Dial 999 (cyfres deledu 1959) – Scott
- The Larkins (cyfres deledu 1960) – Professor Masterson
- Armchair Theatre (cyfres deledu 1961) – Manfred
- Stryker of the Yard (cyfres deledu 1961) – Cymeriad dienw
- Garry Halliday (cyfres deledu 1959–1962) – Y Llais (38 pennod)
- The Sword in the Web (1962– ) – Cymeriad dienw
- Richard the Lionheart (cyfres deledu 1962–63)
- The Norman King (1962) – Tancred
- A King's Ransom (1963) – Count Rolf
- Capture (1963) – Count Rolf
- The Fugitive (1963) – Could Rolf
Ffilmiau
golygu- Dangerous Moonlight (1941) – darn bach (heb gredyd)
- 'Pimpernel' Smith (1941) – darn bach (heb gredyd)
- Tomorrow We Live (1943) – darn bach (heb gredyd)
- Odd Man Out (1947) – Tober
- It's Hard to Be Good (1948) – Budibent
- The Three Weird Sisters (1948) – Thomas
- Good-Time Girl (1948) - Mr Pottinger
- Bonnie Prince Charlie (1948) – Dug Cumberland
- The Wonder Kid (1951) – Mr. Gorik
- Life in Her Hands (1951) – Llawfeddyg
- I'll Get You for This (1951) – Y Ffens
- Judgment Deferred (1952) – Coxon
- The Night Won't Talk (1952) – Martin Soames
- Three Steps in the Dark (1953) – Wilbrahim
- The Harassed Hero (1954) – Logan
- Beau Brummell (1954) – Mr. Tupp (heb gredyd)
- The Gilded Cage (1955) – Bruno Lucas
- Rogue's Yarn (1957) – Arolygydd Walker
- The Duke Wore Jeans (1958) – Bartolomeo
- Assignment Redhead (1956) – Digby Mitchel
- Passport to Shame (1958) – Heath
- The Ugly Duckling (1959) – Dandy
- Mystery in the Mine (1959) – Grimblatt
- The Pure Hell of St. Trinian's (1960) – Emir
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Western Mail 26 Mawrth 1943 Tud 2 colofn 6 "A New Glamorgan Star"
- ↑ The Times 25 Mehefin, 1940 "Marriages" adalwyd 28 Rhagfyr 2020 (mynediad trwy lyfrgell i Gale Primary Sources)
- ↑ 3.0 3.1 The Times 6 Medi 1962 " Mr Elwyn Brook-Jones" adalwyd 28 Rhagfyr 2020 (mynediad trwy lyfrgell i Gale Primary Sources)
- ↑ West London Observer 19 Mawrth 1943 Tud 7 colofn 7 "The Mercury Players"
- ↑ Bishop, George W. (1959-07-27). "Soho Gang Musical". The Daily Telegraph. t. 5. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2020-12-29.
- ↑ Darlington, W. A. (1949-05-07). "Miss Turner's Husband". The Daily Telegraph. t. 5. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2020-12-29.
- ↑ Bishop, George W. (1954-03-08). "Miss Grenfell Requests the Pleasure". The Daily Telegraph. t. 8. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2020-12-29.