Emyr Price

hanesydd, darlithydd a newyddiadurwr

Hanesydd o Gymro oedd Emyr Price (7 Mai 194422 Mawrth 2009) oedd yn arbenigo ar hanes Gwledydd Prydain yn ystod yr 20g yn enwedig bywyd a gwaith David Lloyd George.[1] Cafodd ei eni ar ym Mangor. Fe'i magwyd ym Mhwllheli, Gwynedd. Bu'n golygu Y Faner rhwng 1983 a 1985, gan ddilyn Jennie Eirian.

Emyr Price
Cofiannau'r Lolfa Fy Hanner Canrif I (llyfr).jpg
Clawr Fy Hanner Canrif I
Ganwyd7 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 2009 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, darlithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantAngharad Price Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Roedd yn sosialydd rhonc, ac fel y dywed yn ei hunangofiant Fy Hanner Canrif I, "gwneud hanes yn berthnasol, a'i ddwyn yn fyw i bobl o bob cefndir" fu ei brif nod, gydol ei yrfa. Llongwr oedd ei dad (Robert Price), prif beiriannydd ar longau masnachol. Brawd ei fam yw'r llenor Owain Owain ac mae'n dad i'r awdures Angharad Price.

Bu yng ngholegau Prifysgol Bangor a'r LSE yn Llundain lle cwbwlhaodd gwrs MSc mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddu Cyhoeddus.

Cyn-aelod o'r Blaid Lafur. Bu'n ymegisydd seneddol dros Plaid Cymru yn etholaeth Conwy yn 1979.

LlyfryddiaethGolygu

CyfeiriadauGolygu