Angharad Price

awdures Cymraeg o Wynedd

Nofelydd Cymraeg yw Angharad Price, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002.

Angharad Price
Ganwyd1972 Edit this on Wikidata
Bethel Edit this on Wikidata
Man preswylCaernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, critig, gohebydd gyda'i farn annibynnol, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadEmyr Price Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Angharad Price ym Mangor, yn ferch i'r hanesydd Emyr Price (1944–2009). Yn enedigol o Fethel, Gwynedd, fe'i ganwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor 'yn fop o wallt du' chwedl ei thad (gweler Fy hanner canrif i gan Emyr Preis, Gwasg y Lolfa).

Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, a chafodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gyda'r nofel O! Tyn y Gorchudd (Gomer) ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Mae hi'n uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Mhrifysgol Bangor.[1]

Cyhoeddwyd ei nofel ffug-hunangofiannol O! Tyn y Gorchudd yn 2002; y gyfrol hon a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003 gyda'r un llyfr.

Cyrhaeddodd ei llyfr, Caersaint restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Llyfryddiaeth

golygu

Crynoddisgiau

golygu
  • O! Tyn y Gorchudd (Tympan, 2003)

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tudalen yr awdures ar wefan Prifysgol Bangor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-07. Cyrchwyd 2009-06-01.