Jennie Eirian Davies
Gwleidydd ymarferol, awdures a chyn-olygydd Y Faner oedd Jennie Eirian Davies (6 Ionawr 1925 – 6 Mai 1982). Roedd yn wraig i'r prifardd Eirian Davies ac yn fam i'r bardd a'r dramodydd Siôn Eirian.
Jennie Eirian Davies | |
---|---|
Ganwyd | Jennie Eirian Howells 6 Chwefror 1925 Llanpumsaint |
Bu farw | 6 Mai 1982 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cysylltir gyda | Merched y Wawr, Y Faner |
Priod | Eirian Davies |
Plant | Siôn Eirian |
Magwraeth ac addysg
golyguGanwyd Jennie Eirian (née Howells) yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin yn un o chwech o blant ond bu tri ohonynt farw o'r diciâu. Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth hyfforddodd i fod yn athrawes.[1] Addysgwyd hi'n Ysgol Elfennol Llanpumsaint, Ysgol Sir y Merched, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth lle derbyniodd radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Yn 1978 daeth yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ac fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr un flwyddyn.
Priododd hi a'r gweinidog o fardd Bohemaidd Eirian Davies ar 19 Tachwedd 1949 a ganed dau o feibion iddynt, Siôn Eirian a Guto Davies (g. 1958). Ymgartrefodd y teulu yn Hirwaun (1949-54), Brynaman (1954-62) ac yn yr Wyddgrug (1962-82) lle y bu farw'n gynamserol.
Gwleidyddiaeth
golyguJennie oedd y fenyw gyntaf i ymgeisio dros Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, yn Etholiad Cyffredinol 1955 gan gipio 7.8% o'r bleidlais; ymladdodd eto yn is-etholiad 1957 a chynyddodd ei phleidlais i 11.5%. Blaenarodd y tir ar gyfer buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966.
Awdur a darlledydd
golyguCyhoeddodd Jennie Eirian dri llyfr i blant: Bili Bawd (1961), Guto (1961) a Fflwffen (1963). Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn Trysorfa'r Plant gan newid teitl y cylchgrawn i Antur yng Ngorffennaf 1966.
Bu'n golofnydd radio a theledu yn Y Cymro rhwng 1976 a 1978 ac yma tynnodd sylw at ddiffyg oriau darlledu Cymraeg a'i siom mai ailddarllediadau oedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg. Bu'n darlithio yn yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam.