Conwra deheuol
Conwra deheuol Enicognathus ferrugineus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Psittaciformes |
Teulu: | Psittacidae |
Genws: | Enicognathus[*] |
Rhywogaeth: | Enicognathus ferrugineus |
Enw deuenwol | |
Enicognathus ferrugineus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Conwra deheuol (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: conwraod deheuol) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Enicognathus ferrugineus; yr enw Saesneg arno yw Austral conure. Cachaña yw ei enw yn Sbaeneg. Mae'n perthyn i deulu'r Parotiaid (Lladin: Psittacidae) sydd yn urdd y Psittaciformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn E. ferrugineus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Dosbarthiad
golyguMae'r conwro deheuol (Enicognathus ferrugineus) yn barot a geir o ben deheuol De America - ymhellach i'r de nag unrhyw barot arall - i dir mor bell i'r gogledd â Temuco[1]. Mae'n gonwro eithaf mawr, 35cm (2cm yn fwy na pharotan mynach). Mae'n wyrdd yn bennaf, gyda rhesi ysgafn, a rhywfaint o goch gwan ar y talcen a'r bochau, y bol, a blaen y gynffon, gyda rhan ogleddol dosbarthiad y rhywogaeth yn arddangos llai o goch.
Mae'n byw yn bennaf mewn cynefinoedd coediog, ond hefyd llwyni a thir fferm. Mae'n aros ger lefel y môr yn y de pellaf, ond mae'n cyrraedd hyd at 2000 metr uwchlaw'r môr mhen gogleddol ei ddosbarthiad. Fel arfer, fe'i gwelir mewn minteion o 10–15 o unigolion, er bod rhai dros 100 yn hysbys. Mae'n bwyta hadau glaswellt a bambŵ, cnau, a ffrwythau bach, ac yn nythu mewn cafnau coed.
Mae dwy is-rywogaeth gydnabyddedig, Enicognathus ferrugineus ferrugineus ac Enicognathus ferrugineus minor.
Teulu
golyguDyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Conwra eurbluog | Leptosittaca branickii | |
Macaw Spix | Cyanopsitta spixii | |
Macaw torgoch | Orthopsittaca manilatus |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.