Enid a Lucy
Cyfres ddrama deledu yw Enid a Lucy a ysgrifennwyd gan Siwan Jones. Drama ddoniol a theimladwy am ddwy ffrind anghyffredin yw hon - Enid, cymydog parchus weddw ganol oed a Lucy, merch ifanc sydd am ddianc oddi wrth bartner treisgar.[1]
Enid a Lucy | |
---|---|
Genre | Drama |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 8 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Lona Llewelyn Davies |
Amser rhedeg | 48 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 10 Mawrth 2019 | – 23 Ionawr 2022
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Cynhyrchiad
golyguFe'i ddarlledwyd yn y slot ddrama arferol am 21:00 ar nos Sul ar S4C. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Boom Cymru.[2] Comisiwynwyd ail gyfres ar ddiwedd 2020 i'w ffilmio yn 2021.[3] Cychwynnodd yr ail gyfres ar 2 Ionawr 2022.
Cymeriadau a chast
golygu- Enid – Eiry Thomas
- Lucy – Mabli Jên Eustace
- Denfer – Steffan Cennydd
- Rhodri – Siôn Ifan
- Gwenllian – Heledd Gwynn
- Sid – Nicholas McGaughey
- Majewski – Krystian Godlewski
- Eirlys – Mair Rowlands
- Raymond – Ian Saynor
- Grace – Rhian Jones
- Marlene – Toni Caroll
Penodau
golyguCyfres 1
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[4] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Rhys Powys | Siwan Jones | 10 Mawrth 2019 | 24,000 |
Mae trafferth yn dilyn Lucy lle bynnag mae'n mynd. Yn fam ifanc sy'n cael ei churo gan ei phartner Denfer, mae pob dydd yn sialens. Un diwrnod mae Lucy'n cael y cyfle i ddianc gyda'i babi ac mae'n gofyn am help ei chymydog - Enid yr athrawes biano barchus. Dyma daith fydd yn siwr o newid bywyd Enid a Lucy am byth. | |||||
2 | "Pennod 2" | Rhys Powys | Siwan Jones | 17 Mawrth 2019 | 25,000 |
Ar ôl llwyddo i ddianc rhag Sid, Denfer a Majewski mae Enid a Lucy yn cuddio mewn gwesty yn Abertawe. Ond wrth fwynhau moethusrwydd y lle mae Lucy yn rhannu llun ohoni hi a babi Archie ar y cyfryngau cymdeithasol ac o fewn oriau mae fan wen Sid tu allan. | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Carter | Siwan Jones | 24 Mawrth 2019 | <25,000 |
Gyda swn gwn yn atseinio yn eu clustiau mae Enid a Lucy yn eu heglu hi o ffarm Ed a Wil ar frys gwyllt. Er mwyn setlo'i nerfau mae rhaid i Enid stopio mewn tafarn. Cyn hir mae'r botel sherry yn wag a'r athrawes biano barchus yn cael noson i'w chofio! | |||||
4 | "Pennod 4" | Rhys Carter | Siwan Jones | 31 Mawrth 2019 | 33,000 |
Mae Enid, Lucy ac Archie wedi cyrraedd Llundain a'r cwbwl sydd angen gwneud yw gwerthu'r cyffuriau a chael gwared y gwn. Mae Lucy'n sicr y bydd Dewi'n llwyddo i'w helpu a bydd ei breuddwyd o agor salon 'Lucy's Paradise' yn dod yn wir. Ond yn ddiarwybod iddyn nhw mae'r rhwyd yn gyflym gau amdanynt. Mae Sid, Denfer a Majewski'n gwylio'r ty ac aelodau'r drug cartel o Birmingham ar eu trywydd. Rhaid i Enid wneud pob dim yn ei gallu i amddiffyn ei ffrind ifanc, ond i ba raddau? A'i dyma ddiwedd y daith? |
Cyfres 2
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[4] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Rhys Powys | Siwan Jones | 2 Ionawr 2022 | o dan 17,000 |
Mae taith y ddwy ffrind yn parhau yn yr ail gyfres gydag Enid, Lucy a babi Archie bellach yn byw o dan yr un to. | |||||
2 | "Pennod 2" | Rhys Powys | Siwan Jones | 9 Ionawr 2022 | o dan 15,000 |
Mae bywyd yn dipyn o her i Lucy o hyd. Mae'r awyrgylch yn y siop trin gwallt yn troi'n fygythiol, ac un digwyddiad erchyll yn datgelu cyfrinach dywyll. | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Carter | Siwan Jones | 16 Ionawr 2022 | o dan 14,000 |
Mae ychydig o ramant annisgwyl ym mywyd Enid a Lucy erbyn hyn. Mae Brian yn gwahodd Enid am bryd o fwyd ac fe ddaw Dewi yn ôl i fywyd Lucy unwaith eto. | |||||
4 | "Pennod 4" | Rhys Carter | Siwan Jones | 23 Ionawr 2022 | o dan 11,000 |
Mae noson dial ar Dewi wedi cyrraedd. Er nad oes golwg o Sid mae Enid yn cario mlaen gyda'r cynllun, ac fe gaiff help o gyfeiriad annisgwyl iawn. |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.dailypost.co.uk/special-features/adventure-lifetime-enid-lucys-journey-15930363
- ↑ Taith sydd am newid bywyd: Antur dywyll a doniol dwy ffrind , Daily Post.
- ↑ Comisiynau Rhagfyr 2020. S4C.
- ↑ 4.0 4.1 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.
Dolenni allanol
golygu- Enid a Lucy ar BBC iPlayer