Mair Rowlands
Actores o Gymru yw Mair Rowlands (ganwyd 1956).
Mair Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 1951 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd yn Llanybydder a Pen-y-bont ar Ogwr. Enw ei thad oedd Gerwyn Rowlands, yn arolygydd iechyd y cyhoedd, ac yn frawd i Dafydd Rowlands. Mae ganddi frawd a chwaer. Ganwyd ei brawd iau, Gareth, gyda nam difrifol ar ei olwg. Aeth i Ysgol Ramadeg Ogwr ac aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod. Yn dilyn y coleg aeth i ddysgu Saesneg a Chymraeg ail-iaith yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Beddau ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.[1]
Gyrfa
golyguYn yr 1980au bu'n cyflwyno ar y rhaglen blant Ffalabalam am dair blynedd. Ei swydd actio cyntaf oedd yn y ffilm Gwenoliaid (1986) ac ymddangosodd mewn rhaglenni efl Torri Gwynt, Bowen a'i Bartner a Dinas. Mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni drama teledu Cymraeg yn cynnwys Iechyd Da, Y Pris, 35 Diwrnod a Gwaith/Cartref. Chwaraeon ran Sarjant Gill Morgan yn Pobol y Cwm rhwng 1996 ac 1998. Yn y gyfres Teulu roedd yn chwarae rhan Margaret Morgan a oedd yn briod i Richard Morgan, a chwaraewyd gan ei gŵr go-iawn, William Thomas. Roedd ganddi ran yn ffilm Kevin Allen o Dan y Wenallt (2015).
Yn Saesneg, mae wedi actio mewn dramau teledu yn cynnwys Ballroom, Fun at the Funeral Parlour, A Mind to Kill a Belonging.
Bywyd personol
golyguMae'n byw ym Mhenarth ac yn briod a'r actor William Thomas a cawsant ddau o blant. Bu farw ei mab Matthew yn 17 mlwydd oedd yn 2010.[2] Mae'n dioddef o arthritis ac wedi cael sawl llaw-driniaeth i'w drin yn cynnwys pen-glin metel.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 06/01/2013 - Mair Rowlands
- ↑ Real life husband and wife play TV happy families (en) , WalesOnline, 12 Ionawr 2008. Cyrchwyd ar 24 Hydref 2018.
Dolenni allanol
golygu- Mair Rowlands ar wefan Internet Movie Database