Eternal Sunshine of the Spotless Mind
Mae Eternal Sunshine of the Spotless Mind (2004) yn ffilm ddrama Americanaidd a gyfarwyddwyd gan y Ffrancwr Michel Gondry. Defnyddia'r ffilm elfennau o wyddonias a swrealaeth newydd er mwyn archwilio natur y cof a chariad.[1] Agorodd y ffilm yng Ngogledd America ar 19 Mawrth 2004 gan wneud dros UD$70 miliwn yn fyd-eang.[2] Mae'r ffilm yn serennu Jim Carrey a Kate Winslet yn ogystal â Kirsten Dunst, Mark Ruffalo, Tom Wilkinson, Elijah Wood, Jane Adams, a David Cross. Daw teitl y ffilm o'r gerdd Eloisa to Abelard gan Alexander Pope, a oedd yn sôn am stori gariad drychinebus.
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Michel Gondry |
Cynhyrchydd | Anthony Bregman |
Ysgrifennwr | Michel Gondry Charlie Kaufman Pierre Bismuth |
Serennu | Jim Carrey Kate Winslet Kirsten Dunst Mark Ruffalo Elijah Wood Tom Wilkinson Jane Adams David Cross Thomas Jay Ryan |
Cerddoriaeth | Jon Brion |
Sinematograffeg | Ellen Kuras |
Golygydd | Valdís Óskarsdóttir |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Focus Features |
Dyddiad rhyddhau | 19 Mawrth, 2004 |
Amser rhedeg | 108 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "Eternal Sunshine of the Spotless Mind". Slant Magazine. Adalwyd ar 2008-10-27
- ↑ "Eternal Sunshine of the Spotless Mind". Box Office Mojo. Adalwyd ar 2007-06-02.
Dolenni allanol Golygu
- Gwefan swyddogol
- [1] Archifwyd 2010-05-13 yn y Peiriant Wayback.