Etholiad Senedd Ewrop, 2019 (DU)

Cynhaliwyd Etholiad Senedd Ewrop yn y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o Etholiadau Senedd Ewrop 2019, ar ddydd Iau, 23 Mai 2019 a chyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf ar y dydd Sul dilynol.[1][2] Yng Nghymru, bu 37.1%, o'r etholwyr yn bwrw eu pleidlais: 5.6% yn uwch na'r etholiad diwethaf yn 2014 a daeth y Blaid Lafur yn drydydd, Plaid Cymru'n ail a Phlaid Brexit yn cipio dwy sedd.

Map o'r canlyniadau
Map o'r blaid a enillodd fwyaf o bleidleisiau ym mhob ardal gyfri.

Nid oedd fawr o gynllunio wedi bod ar gyfer yr etholiad, gan fod y Deyrnas Unedig wedi bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd (yn dilyn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016) ar 29 Mawrth 2019. Fodd bynnag, yn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd ar 11 Ebrill 2019 cytunodd llywodraeth Prydain a'r Cyngor Ewropeaidd i ohirio gadael tan 31 Hydref 2019, er mwyn rhoi mwy o amser i ddod i gytundeb parthed Brexit. Er mai dyna oedd y sefyllfa, sef i'r etholiad ddigwydd, parhaodd Llywodraeth y DU i geisio osgoi cymryd rhan trwy gytuno ar dynnu'n ôl cyn 23 Mai. Ar 7 Mai 2019, cyfaddefodd llywodraeth y DU y bydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen.[3]

Penderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd oedd mater canolog yr ymgyrch etholiadol. Cafwyd pegynu barn mwy eithafol, hyd yn oed, nag Etholiad Senedd Ewrop, 2014 (pan gafodd UK Independence Party lwyddiant ysgubol). Yng Nghymru collodd y Llafur a'r Ceidwadwyr a daeth Plaid Cymru'n ail (gyda chynnydd o dros 4%) a'r blaid newydd sbon, Plaid Brexit yn gyntaf. Yn yr Alban, cynyddodd pleidlais y cenedlaetholwyr, yr SNP, dros 8% a gwelwyd eu llwyddiant yn bleidlais dros barhau'n rhan o Ewrop ac yn bleidlais dros annibyniaeth. Aflwyddiannus oedd y blaid newydd Plaid Annibyniaeth y DU, ac ni chawsant un AE. Trosgwlyddwyd pleidleisiau Llafur a Cheidwadwyr, yn Lloegr, i'r Blaid Werdd a'r Rhyddfrydwyr.

Yr etholiad hwn oedd y nawfed tro i wledydd y Deyrnas Unedig (DU) ethol Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Cyflwynwyd enwebiadau ymgeiswyr erbyn 16:00 ar 25 Ebrill 2019, a chwblhawyd cofrestru pleidleiswyr ar 7 Mai 2019.[4][5]

Mae'n ansicr pa mor hir, os o gwbl, y bydd ASEau gwledydd Prydain yn eistedd cyn i'r broses dynnu'n ôl o Ewrop gael ei chwblhau, gan fod y cytundeb ymestyn yn darparu ar gyfer terfynu cynnar cyn gynted ag y caiff y cytundeb tynnu'n ôl ei gadarnhau. Penderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd oedd mater canolog yr ymgyrch etholiadol.[6]

Cymru golygu

Yr etholiad cyn hyn oedd Etholiad Senedd Ewrop, 2014, pan etholwyd Jill Evans (Plaid Cymru), Nathan Lee Gill (UKIP), Kay Swinburne (Ceidwadwyr) a Derek Vaughan (Llafur). Yn 2019, y pedwar oedd: Nathan Gill a James Wells (Plaid Brexit), Jill Evans (Plaid Cymru) a Jackie Jones (Llafur).[7] Mynegodd Gill, oriau wedi'r canlyniad ei fod yn dymuno gadael Ewrop ar unwaith, ac ymateb Adam Price, arweinydd Plaid Cymru fod cynnydd Plaid Cymru mor anferthol â symudiad platiau tectonig.

Mae gan Gymru 4 cynrychiolydd yn Llywodraeth Ewrop o'i gymharu a 73 drwy wledydd Prydain. Yn Ewrop, mae'r SNP a Phlaid Cymru'n perthyn i'r grwp: Cynghrair Rhydd Ewrop a The Greens–European Free Alliance; mae'r toriaid wedi ymuno â'r Conservatives & Reformists ond 'dyw Sosialwyr Cymru na gwledydd Prydain heb ymuno â grwp.

Cymru: Etholiad Ewrop, 2019
Plaid Poblogaeth
Plaid Brexit
271,404
Plaid Cymru
163,928
Llafur
127,833
Rhyddfrydwyr
113,885
Ceidwadwyr
54,587
Y Blaid Werdd
52,660
UKIP
27,566
Change UK
24,332

Polau piniwn golygu

Client/isid Ddyddiad yr archwiliad Sampl
(maint)
Llafur UKIP Ceidwadwyr Plaid Cymru Y Blaid Werdd Rhyddfrydwyr Change UK Plaid Brexit Arall Mwyafrif
YouGov/ITV Cymru Wales/Cardiff University 16–20 Mai 2019 1,009 15% 2% 7% 19% 8% 10% 2% 36% 1% 17%
YouGov/Plaid Cymru 10–15 Mai 2019 1,113 18% 3% 7% 16% 8% 10% 4% 33% 0% 15%
YouGov/ITV Cymru Wales/Cardiff University 2–5 Apr 2019 1,025 30% 11% 16% 15% 5% 6% 8% 10% 1% 14%
Etholiad 2014 22 Mai 2014 28.1% 27.6% 17.4% 15.3% 4.5% 3.9% 3.1% 0.6%
 
Ffurflen bleidleisio Rhanbarth Cymru, gydag 8 plaid

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ministers set for further Brexit talks". BBC News. 8 Ebrill 2019.
  2. golwg360.cymru' adalwyd 15 Mai 2019.
  3. independent.co.uk; adalwyd 15 Mai 2019.
  4. "European Parliamentary elections in Great Britain" (PDF). The Electoral Commission (UK). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-04-30. Cyrchwyd 13 Ebrill 2019.
  5. "Types of election, referendums, and who can vote". GOV.UK. HM Government. Cyrchwyd 13 Ebrill 2019.This article contains quotations from this source, which is available under the Open Government Licence v3.0 © Crown copyright
  6. Helm, Toby (6 April 2019). "The Independent Group looks to European elections for breakthrough". The Guardian.
  7. bbc.com; adalwyd 27 Mai 2019.