Reform UK

(Ailgyfeiriad o Plaid Brexit)

Mae Reform UK (rhai weithiau gelwi'r yn Diwygio DU yn Gymraeg[2]) yn blaid wleidyddol sy'n ymgyrchu dros y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE). Yn gyffredinol, fe'i disgrifir fel "poblyddol" (populist), ac fe'i cefnogir gan bobl sy'n rhwystredig gyda sut y gweithredwyd canlyniad Refferendwm 2016 gan Lywodraeth Lloegr ac sy'n dymuno gadael yr UE heb aros yn rhan o'r farchnad sengl na'r undeb tollau. Mae Reform UK yn portreadu ei hun fel rhywbeth sy'n canolbwyntio ar adfer sofraniaeth ddemocrataidd Prydain. Ei phrif bolisi yw i'r DU adael yr UE a masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd hyd nes y gellir gwneud cytundebau masnach ffurfiol.[3][4] Fe'i gelwid cyn 6 Ionawr 2021 yn "Blaid Brexit".

Reform UK
CadeiryddNigel Farage
ArweinyddNigel Farage
SloganChange Politics
for Good
Sefydlwyd23 Tachwedd 2018; 5 o flynyddoedd yn ôl (2018-11-23)
Pencadlys83 Stryd Victoria
Llundain
SW1 0HW[1]
Aelodaeth  (2019)increase 115,000
Rhestr o idiolegauGwrth Ewrop
Poblyddiaeth
Gwrth gyfyngiadau COVID
Lliw          Aqua, gwyn
Llywodraeth Lleol yn y DU
5 / 19,698
Gwefan
reformparty.uk

Sefydlu

golygu
 
Nigel Farage, arweinydd Reform UK

Ymgorfforwyd cwmni o'r enw The Brexit Party Limited gyda Thŷ'r Cwmnïau ar 23 Tachwedd 2018.[5] Fe'i cyhoeddwyd yn ffurfiol ar 20 Ionawr 2019 gan gyn-lefarydd economeg UKIP Catherine Blaiklock, a fu'n gwasanaethu fel arweinydd cychwynnol y blaid.[6][7] Ar 5 Chwefror 2019, cafodd ei gofrestru gyda Chomisiwn Etholiadol y Deyrnas Unedig ar gyfer ymgeiswyr mewn unrhyw etholiadau yn Lloegr, yr Alban, Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.[8]

Ar ôl cyhoeddi sefydlu'r blaid, fe ddenodd Blaiklock feirniadaeth ar gyfer sylwadau cynharach ganddi a ddisgrifiwyd fel Islamoffobig.[9] Ymddiswyddodd fel arweinydd y blaid ar 20 Mawrth 2019 oherwydd ei negeseuon gwrth-Islam a gafodd eu dileu ers hynny ar Twitter, gan gynnwys ail-drydar negeseuon gan bobl asgell-dde gan gynnwys Mark Collett, Tommy Robinson a Joe Walsh.[10]

Senedd Cymru

golygu

Ar 15 Mai 2019, ymunodd pedwar Aelod Cynulliad Cymru a etholwyd neu a gyfetholwyd yn wreiddiol ar gyfer UKIP (Caroline Jones, Mandy Jones, Mark Reckless a David Rowlands) â Phlaid Brexit.[11] Penodwyd Reckless yn Arweinydd y grŵp Cynulliad. Dywedwyd wrth un AC, a etholwyd yn UKIP ond erbyn yr amser hwn yn eistedd fel annibynnol, Michelle Brown, na fyddai croeso iddi yn y blaid.[12]

Ar 18 Awst 2020 gadawodd Caroline Jones y blaid oherwydd ei fod hi'n yn anghytuno gyda pholisi’r blaid, o ddiddymu'r Senedd, a'i amnewid gyda Phrif Weinidog etholedig uniongyrchol sy'n atebol i Aelodau Seneddol Cymreig.[13]

Ar 16 Hydref 2020 gadawodd Mandy Jones a David Rowlands y blaid er mwyn ffurfio grŵp aelodau Annibynnol newydd yn y Senedd ar y cyd gyda Caroline Jones. Mae'r grŵp, Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, yn ceisio adnewyddu'r Senedd yn hytrach nag ddiddymu.[14]

Ar 19 Hydref 2020, gadawodd yr aelod olaf o Blaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless, y blaid i ymuno â Gareth Bennett ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru.[15]

Yn Dachwedd 2020 dywedodd arweinydd y grŵp Annibynnol dros Ddiwygio yn y Senedd, Caroline Jones, fod nhw a'r "delerau ardderchog" gydag arweinwyr y Blaid Brexit/ Reform UK yn Lloegr.[16]

Fe wnaeth y blaid ennill ddim un sedd yn etholiad Senedd 2021 gan cael 1.57% o'r bleidlais etholaethol ac 1.06% o'r bleidlais rhanbarthol.[17]

Ail-frandio i Reform UK

golygu

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Farage a Tice eu bod nhw wedi gwneud cais i'r Comisiwn Etholiadol i ailenwi Blaid Brexit i 'Reform UK', a dywedwyd y byddai'r blaid yn ymgyrchu ar blatfform a oedd yn gwrthwynebu cyfnod clo pandemig COVID-19 pellach a byddan't yn ceisio diwygio agweddau o'r Lywodraethu'r DU, gan gynnwys y BBC a Thŷ'r Arglwyddi.[18]

Ar 6 Ionawr 2021, cymeradwywyd newid enw'r blaid i Reform UK gan y Comisiwn Etholiadol.[19]

Fe wnaeth Nigel Farage sefyll lawr fel arweinydd y blaid ar 7 Mawrth. Dywedodd ar Trydar “fydda i ddim ynghlwm wrth wleidyddiaeth bellach, ond dw i ddim am fynd i ffwrdd o frwydro brwydrau mawr y dydd". Daeth y cadeirydd Richard Tice yn arweinydd.[20]

Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddwyd bod cyn-ASE Plaid Brexit, Nathan Gill, wedi dod yn Arweinydd Reform UK yng Nghymru.[21]

Mae nifer o ymgeiswyr Reform UK mynd i sefyll yn etholiad Senedd Cymru, gan gynnwys Mandy Jones (sydd yn aelod o'r grŵp Annibynnol dros Ddiwygio yn y Senedd) ar gyfer De Clwyd.[22]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "View registration – The Electoral Commission". search.electoralcommission.org.uk. Cyrchwyd 13 Mawrth 2019.
  2. "Trydar Reform UK Wales/ Diwygio DU Cymru". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.
  3. Halliday, Josh (12 Ebrill 2019). "Annunziata Rees-Mogg to stand as MEP for Farage's Brexit party". The Guardian.
  4. BBC News 31 Ionawr 2019: "As things stand, the UK is due to leave the European Union on 29 March, 2019, regardless of whether there is a deal with the EU or not."[1]
  5. "The Brexit Party Limited". Companies House. Cyrchwyd 20 Mai 2019.
  6. "Catherine Blaiklock appointed as Economics Spokesman". UKIP. 12 Medi 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-15. Cyrchwyd 15 Chwefror 2019.
  7. "The new Ukip? Nigel Farage offers 'full support' for another Brexit party". The Independent. Ireland. 20 Ionawr 2019. [..] former Ukip economics spokeswoman Catherine Blaiklock applied to register the new party last week and she sounded out Mr. Farage for a role in the organisation. He told the paper: "This was Catherine's idea entirely – but she has done this with my full knowledge and my full support.
  8. "Changes to the registers of political parties made since 27 January 2019: The Brexit Party" (PDF). Electoral Commission. 5 Chwefror 2019. Cyrchwyd 9 Chwefror 2019.
    - "Brexit Party: Registration Details". Electoral Commission. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
    - Jim Pickard (8 Chwefror 2019). "New 'Brexit Party' backed by Nigel Farage launches". Financial Times. A new political party backed by Nigel Farage has been launched in an attempt to attract hardline Conservative activists unhappy with Theresa May’s attempt to forge a compromise Brexit plan.
  9. "The Founder Of Nigel Farage's New Brexit Party Has A History Of Anti-Muslim Comments". Buzzfeed. 11 Chwefror 2019. Cyrchwyd 1 Mawrth 2019.
  10. Walker, Peter (20 Mawrth 2019). "Leader of Nigel Farage's party resigns over anti-Islam messages". The Guardian. Cyrchwyd 20 Mawrth 2019.
  11. "Ffurfio grŵp Brexit Party yn y Cynulliad". BBC Cymru Fyw. 2019-05-15. Cyrchwyd 2020-06-04.
  12. Shipton, Martin (11 Mai 2019). "Four Welsh Assembly Members in talks to join Nigel Farage's Brexit Party". Wales Online. Cyrchwyd 12 Mai 2019.
  13. "Caroline Jones yn gadael grŵp Brexit Senedd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2020-08-18. Cyrchwyd 2020-08-18.
  14. "Tri aelod yn ffurfio grŵp newydd yn Senedd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2020-10-16. Cyrchwyd 2020-10-16.
  15. "Mark Reckless yn ymuno â Phlaid Diddymu'r Cynulliad". BBC Cymru Fyw. 2020-10-19. Cyrchwyd 2020-10-19.
  16. "Grŵp Diwygio yn y Senedd "ar delerau ardderchog" gyda Nigel Farage". Golwg360. 2020-11-04. Cyrchwyd 2021-03-31.
  17. "Election results". busnes.senedd.cymru. Cyrchwyd 2021-06-09.
  18. "Nigel Farage: Brexit Party to focus on fighting lockdown". BBC News (yn Saesneg). 2020-11-02. Cyrchwyd 2021-03-31.
  19. "Party registration decisions". www.electoralcommission.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.
  20. "Nigel Farage yn camu o'r neilltu". Golwg360. 2021-03-07. Cyrchwyd 2021-03-31.
  21. "Nathan was a leading figure in the fight to ensure UK laws are created by politicians accountable to us". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.
  22. "Congratulations Jamie, Mandy, Oliver & Steve!". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-31.