Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru a Lloegr, 2016
Cynhaliwyd yr ail etholiad i ddewis Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Ddydd Iau 6 Mai2016, yr un diwrnod ag etholiad Cynulliad Cymru. Drwy gynnal y ddau etholiad ar yr un diwrnod y gobaith oedd codi'r nifer a bleidleisiodd, a digwyddodd hynny.
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru, 2016
Y 36 rhanbarth y cynhaliwyd yr etholiadau ynddynt. Lliwiau yn dangos y blaid a enillodd, fel yn y prif dabl.
Roedd etholiad yn 40 o'r 43 rhanbarth heddlu yng Nghymru a Lloegr gan defnyddio y sustem bleidleisio atodol. Nid yw'n cynnwys rhanbarthau heddlu Llundain Fwyaf (mae Maer Llundain yn cael ei ystyried fel comisiynwydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal Heddlu Metropolitan tra fod y Cwrt y Cyngor Cyffredin yn gwneud yr yn swydd ar gyfer Heddlu Dinas Llundain). Nid oedd etholiad ar gyfer Heddlu Manceinion Fwyaf am fod bwriad i ddiddymu swydd y comisiynydd heddlu yn 2017 a rhoi Maer etholedig i Fanceinion Fwyaf yn ei le.
Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru gynnig ymgeiswyr yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu.[1]