Arfon Jones
Gwleidydd a chyn Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru ydy Arfon Jones (ganwyd Mawrth 1955).[2] Bu'n gynghorydd ward Gorllewin Gwersyllt yng Nghyngor Sir Wrecsam ers 2008.[3] Mae'n cyn aelod o Blaid Cymru.[4]
Arfon Jones | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 8 Mai 2016 | |
Rhagflaenydd | Winston Roddick |
---|---|
Geni | Mawrth 1955 Harlech, Gwynedd |
Plaid wleidyddol | Annibynnol |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Plaid Cymru |
Priod | Gwenfair |
Plant | dwy ferch |
Cartref | Gwersyllt, Wrecsam[1] |
Alma mater | Prifysgol Met Caerdydd |
Galwedigaeth | Heddwas |
Gwefan | [1] |
Magwyd Owain Arfon Jones yn ardal Ardudwy, Gwynedd a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Ym Mhrifysgol y Met, Caerdydd bu'n astudio Gwyddoniaeth Feddygol.
Gyrfa
golyguBu Arfon yn Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru tan iddo ymddeol yn 2008.[5]
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
golyguYm Mai 2016 cafodd Arfon ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu dros Ogledd Cymru. Cynhaliwyd y bleidlais yr un diwrnod ag Etholiad y Cynulliad ar 5 Mai 2016. Oherwydd hyn, cododd y ganran a bleidleisiodd o 14.83% (yn 2012) i 43.78%.[6] Etholwyd aelod arall o Blaid Cymru, Dafydd Llywelyn fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd dros ardal Dyfed Powys. Golyga hyn fod hanner nifer y comisiynwyr yn cynrychioli Plaid Cymru a'r hanner arall yn cynrychioli'r Blaid Lafur. Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, ceir 1,454 o swyddogion, 888 o staff a 232 o swyddogion cymorth cymunedol.[7]
Yn ei anerchiad cyn yr etholiad dywedodd: “Fel Comisiynydd yr Heddlu fy mlaenoriaeth gyntaf fydd i gario allan adolygiad trwyadl o blismona crai gan fod arwyddion yn dangos fod hyd at 60% o waith yr heddlu yn waith y dylai asiantaethau fod yn ei wneud.
“Hefyd gallai arbedion ei gneud drwy dargedu adnoddau yn fwy effeithiol e.e. Gwasanaeth Cyfiawnder i’r Ifanc, lle mae angen gwell dyrannu adnoddau i ymyrryd yn gynt i ddargyfeirio ieuenctid i ffwrdd o droseddu."[8]
- Arfon Jones (Plaid Cymru)[9]
- David Taylor (Llafur)[9]
- Simon Wall (UKIP)[10]
- Matt Wright (Ceidwadwyr) [11]
Yn 2021 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll eto yn etholiad nesaf y Comisiynydd, i'w gynnal y flwyddyn honno.[12]
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, 2016 | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Rownd 1 | % | Ail rownd | Cyfanswm | Pleidleisiau'r Rownd 1af Pl'au a drosglwyddir | ||||
Plaid Cymru | Arfon Jones | 67,179 | 31.46% | 23,049 | 90,228 |
| ||||
Llafur | David Taylor | 54,892 | 25.71% | 9,972 | 64,864 |
| ||||
Ceidwadwyr | Matt Wright | 42,005 | 19.67% |
| ||||||
UKIP | Simon Wall | 25,943 | 12.15% |
| ||||||
Annibynnol | Julian Sandham | 23,487 | 11.00% |
| ||||||
Y nifer a bleidleisiodd | 213,506 | 41.60% | ||||||||
Pleidleisiau a wrthodwyd | ||||||||||
Cyfanswm y pleidleisiau | ||||||||||
Nifer yr etholwyr a gofrestrwyd | ||||||||||
Plaid Cymru yn cipio oddi wrth Annibynnol |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ arfonjones.cymru; Archifwyd 2016-04-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 14 Mai 2016
- ↑ Tŷ'r Cwmniau - Owain Arfon JONES. Tŷ'r Cwmniau.
- ↑ "Councillor Arfon Jones". Wrexham County Borough Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-29. Cyrchwyd 29 October 2014.
- ↑ "Cyn-Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd yn gadael Plaid Cymru". Golwg360. 2021-10-19. Cyrchwyd 2021-10-19.
- ↑ "Arfon Jones". LinkedIn. Cyrchwyd 29 Hydref 2014.
- ↑ www.bbc.co.uk; adalwyd 14 Mai 2016
- ↑ bbc.co.uk; gwefan Cymru Fyw; adalwyd 14 Mai 2016.
- ↑ choosemypcc.org.uk;[dolen farw] adalwyd 14 Mai 2016.
- ↑ 9.0 9.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-14. Cyrchwyd 2016-05-14.
- ↑ "UKIP Local". Twitter. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
- ↑ "- Conservative candidate for North Wales Police and Crime Commissioner announced". Rhyl Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-04. Cyrchwyd 3 Ebrill 2016.
- ↑ Arfon Jones ddim am sefyll eto , Golwg360, 6 Ionawr 2021.