Eugrad
Sant Cymreig oedd Eugrad (Llydaweg: Ergat neu Egrat) (bl. 6g). Fe'i cysylltir ag Ynys Môn a hefyd a Llydaw, efallai.[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 6 Ionawr.
Eugrad | |
---|---|
Eglwys Llaneugrad, Ynys Môn | |
Ganwyd | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 6 g |
Dydd gŵyl | 6 Ionawr |
Tad | Gildas |
Bywgraffiad
golyguRoedd Eugrad yn frawd i Sant Gallgo, sefydlydd Llanallgo ym Môn, ac yn un o feibion Gildas fab Caw yn ôl yr achau traddodiadol a elwir yn Bonedd y Saint. Dywedir iddo gael ei ddysgu gan Sant Illtud yn ei glas enwog yn Llanilltud Fawr ym Morgannwg.[1]
Cysegrwyd eglwys plwyf Llaneugrad yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn i Eugrad. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 12g.
Ceir sant o'r enw Ergat/Egrat yn Llydaw sydd efallai i'w uniaethu ag Eugrad. Roedd cysylltiad amlwg rhwng Cymru a Llydaw yn y 6g. Cedwir penglog y sant yn Treouergat yn nhalaith Leon; ceir ffynnon Ergat yno hefyd.[1]
Culhwch ac Olwen
golyguCeir cyfeiriad at 'Ergyriad (Ergyryat) fab Caw' fel un o farchogion Arthur yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen a thybir mai ffurf ar 'Eugrad' ydyw.[2]