Gildas

mynach neu sant
(Ailgyfeiriad o Gildas fab Caw)

Roedd Gildas (bu farw 29 Ionawr 570) yn glerigwr, efallai yn fynach, sy’n fwyaf adnabyddus fel awdur y traethawd De Excidio Britanniae ("Ynghylch dinistr Prydain"). Gelwid ef yn Gildas Sapiens (Gildas Ddoeth) ac weithiau “Gildas Badonicus”. Mewn testunau Cymraeg Canol a gweithiau hynafiaethol cyfeirir ato fel Gildas fab Caw yn ogystal ac mewn Llydaweg: Gweltaz. Dethlir ei wylmabsant ar 29 Ionawr.

Gildas
Ganwyd500 Edit this on Wikidata
Dumbarton, Ystrad Clud Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 570 Edit this on Wikidata
Rhuys Peninsula Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, llenor, cenhadwr, mynach Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Ionawr Edit this on Wikidata
PlantAllgo, Eugrad, Gwynog Edit this on Wikidata

Mae dau fersiwn o Fuchedd Gildas ar gael. Ysgrifennwyd un fuchedd, efallai yn y 9g gan fynach o Ruys yn Llydaw. Dywed ef fod Gildas yn fab i Caunus (Caw), a’i fod wedi ei eni yn Arecluta (Alt Clut, neu Ystrad Clud). Gyrrwyd ef i’w addysgu gan Illtud, ynghyd â Samson a Paul Aurelian. Yn nes ymlaen bu’n astudio yn Iwerddon, ac wedi ei ordeinio dychwelodd i’r Hen Ogledd i genhadu. Teithiodd i Rufain a Ravenna. Daeth i Lydaw ac ymsefydlodd yno ar ynys Ruys, lle adeiladodd fynachlog. Bu farw yn Ruys ar 29 Ionawr, ac yn ôl ei ddymuniad rhoddwyd ei gorff mewn cwch a gadael iddo fynd gyda’r llanw. Dri mis yn ddiweddarach ar 11 Mai, cafodd gwŷr o Ruys hyd i’r cwch ar y lan, a chorff Gildas yn dal ynddo yn berffaith. Aethant â’i gorff yn ôl i Ruys a’i gladdu yno.

 
Ffynnon Gildas, Morbihan, Llydaw

Ysgrifennwyd yr ail Fuchedd gan Caradog o Lancarfan yn hanner cyntaf y 12g. Dywed i Gildas gael ei addysgu yng Ngâl ac iddo ymddeol i Street (Gwlad yr Haf) a’i fod wedi ei gladdu yn Glastonbury. Nid yw Caradog yn crybwyll unrhyw gysylltiad â Llydaw, ac mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu bod dau berson gwahanol o’r enw Gildas. Fodd bynnag, mae llawer o’r manylion eraill yn cyfateb. Cred rhai ysgolheigion fod y manylion am Glastonbury wedi eu hychwanegu yn ddiweddarach. Mae Caradog yn rhoi nifer o hanesion am Gildas a’r Brenin Arthur. Dywed fod brodyr Gildas wedi gwrthryfela yn erbyn Arthur, a bod Arthur wedi lladd y brawd hynaf, Huail ap Caw. Yn ôl un traddodiad, dienyddiwyd Huail ap Caw yn Rhuthun, ar faen a elwir yn Faen Huail, sydd i'w gweld yno heddiw.

Yn ôl Bonedd y Saint, roedd gan Gildas dri mab a merch, Gwynnog, Noethon, Dolgar a Tydech. Ychwanegwyd Cenydd at y rhestr mewn nodyn gan Iolo Morganwg, rheswm digonol dros ei amau. Dywedir hefyd bod y seintiau Gallgo ac Eugrad yn feibion Caw hefyd.

De Excidio Britanniae

golygu

Gwaith enwocaf Gildas yw'r De Excidio Britanniae, sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r Brythoniaid yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y Sacsoniaid wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, Constantinus, tern Damnonia, Aurelius Caninus, Vortiporius, teyrn Dyfed, Cuneglas a Maelgwn Gwynedd ("Maglocunus"). Cyfeiria at Frwydr Mynydd Baddon, ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw Arthur, a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan Nennius yn ddiweddarach.

Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud bod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er bod y Lladin wreiddiol yn anodd yn y frawddeg hon. Yn ôl yr Annales Cambriae bu Glidas farw yn 570; yn ôl Brut Tigernach 569 oedd y flwyddyn.

Nid oedd Gildas yn hanesydd nac yn bwriadu ysgrifennu hanes; mae John Davies yn Hanes Cymru yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod A. W. Wade-Evans yn cyfeirio at y De excidio fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau hanes Cymru "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Er hynny ef yw’r unig ffynhonnell sydd ar gael o’r cyfnod yma.

Llyfryddiaeth

golygu
  • John Owen Jones (gol.), O Lygad y Ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru (Davies ac Evans, Y Bala, 1890)
  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • A.W. Wade-Evans (cyf.), Coll Prydain (Lerpwl, 1950)
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • Two lives of Gildas: by a Monk of Ruys, and Caradoc of Llancarfan, cyfieithiad Hugh Williams (Llanerch, 1990) ISBN 0947992456

Dolenni allanol

golygu