Cynghrair Rhydd Ewrop

grŵp o bleidiau Ewropeaidd o'r chwith genedlaethol a rhanbarthol
(Ailgyfeiriad o European Free Alliance)

Grŵp o bleidiau yn Senedd Ewrop yw Cynghrair Rhydd Ewrop (Saesneg: European Free Alliance, EFA; Ffrangeg: Alliance libre européenne). Mae'n cynnwys pleidiau cenedlaethol a rhanbarthol megis Plaid Cymru, Plaid Genedlaethol yr Alban, Unvaniezh Demokratel Breizh (Llydaw), Esquerra Republicana de Catalunya (Catalwnia) ac Eusko Alkartasuna (Gwlad y Basg); pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth neu ddatganoli. Fel rheol, cyfyngir aelodaeth i bleidiau adain-chwith neu ganol, felly nid yw pob plaid genedlaethol yn Ewrop yn aelod. Ar hyn o bryd maent yn cydweithio â grŵp Gwyrddion Ewrop yn y Senedd Ewropeaidd.

Cynghrair Rhydd Ewrop
Enghraifft o'r canlynolEuropean political party, metaorganization Edit this on Wikidata
Idiolegprogressivism, regionalism, autonomism, cenedlaetholdeb, annibyniaeth, European values Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu9 Gorffennaf 1981 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifADVN | archive for national movements Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolRegister of European Political Parties Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuropean Free Alliance Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.e-f-a.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y grŵp yn 1981, wedi i nifer o bleidiau cenedlaethol a rhanbarthol ennill seddau yn etholiad Senedd Ewrop, 1979, ond dim ond ar ôl etholiad 1989 y ffurfiwyd grŵp unedig. Yn dilyn etholiad Senedd Ewrop 2004, roedd gan y cynghrair bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd; dau o Blaid Genedlaethol yr Alban, un o Blaid Cymru (Jillian Evans) ac un o Esquerra Republicana de Catalunya (Chwith Weriniaethol Catalwnia); hanner y ffordd trwy gyfnod y senedd, cymerwyd lle yr olaf gan aelod o Eusko Alkartasuna .