Eva Marshal

urddas

Roedd Eva Marshal (12031246) yn uchelwraig Cambro-Normanaidd a gwraig yr arglwydd Mers grymus William de Braose, neu Gwilym Brewys fel yr adnabuwyd yn y Gymraeg. Roedd hi'n ferch William Marshal, Iarll 1af Penfro, a'i wraig Isabel de Clare, ac wyres Strongbow ac Aoife o Leinster.

Eva Marshal
Corffddelw Efa yn Eglwys Priordy'r Santes Fair, y Fenni.
Ganwyd1203 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw1246 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadWilliam Marshal, Iarll 1af Penfro Edit this on Wikidata
MamIsabel de Clare Edit this on Wikidata
PriodGwilym Brewys Edit this on Wikidata
PlantMaud de Braose, Eleanor de Braose, Isabella de Braose, Eva de Braose Edit this on Wikidata

Roedd hi'n ddeiliaid diroedd a chestyll Braose yn ei hawl ei hun yn dilyn crogi cyhoeddus ei gŵr, William, dan orchymyn Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru.

Teulu a phriodas golygu

Ganed yr Arglwyddes Eva yn 1203, yng Nghastell Penfro, y pumed ferch [1] a'r degfed plentyn i William Marshal, Iarll Penfro ac Isabel de Clare, 4ydd Iarlles Penfro. Ei thaid a nain dadol oedd John Marshal a Sibyl o Gaersallog, a'i thaid a nain famol oedd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro, a elwir hefyd yn Strongbow ac Aoife o Leinster, y mae'n debyg iddi gael ei enwi ar ei hôl.

Yr Arglwyddes Eva oedd yr ieuengaf o ddeg o blant, gyda phum brawd hŷn a phedair chwaer hŷn. Disgrifiwyd Eva a'i chwiorydd fel merched golygus, bywiog.[2] O 1207 i 1212, bu Eva a'i theulu yn byw yn Iwerddon.

Rhywbryd cyn 1221, priododd yr Arglwydd Mers William de Braose, a daeth ym mis Mehefin 1228 yn Arglwydd y Fenni, [n 1] bu iddynt bedair merch. Roedd Gwilym yn fab i Reginald de Braose a'i wraig gyntaf, Grecia Briwere. Roedd yn cael ei gasáu gan y Cymry a alwodd ef yn Gwilym Ddu.

Plant golygu

  • Isabella de Braose (g.1222), priododd y Tywysog Dafydd ap Llywelyn. Bu farw heb blant.
  • Maud de Braose (1224–1301), ym 1247, priododd Roger Mortimer, Barwn 1af Wigmore, ymysg eu plant oedd Edmund Mortimer, 2il Barwn Mortimer ac Isabella Mortimer, Iarlles Arundel.
  • Eva de Braose (1227 – 28 July 1255), priododd William de Cantelou.
  • Eleanor de Braose (c.1228 – 1251). Tua 1241, priododd Humphrey de Bohun. Bu iddynt dau fab, Humphrey de Bohun, 3rd Iarll Henffordd a Gilbert de Bohun, ac un ferch, Alianore de Bohun. Bu'r tri yn briod gyda phlant. Claddwyd Eleanor ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni.

Gweddwdod golygu

Cafodd gŵr Eva ei grogi yn gyhoeddus gan Llywelyn Mawr, Tywysog Cymru ar 2 Mai 1230 ar ôl cael ei ddarganfod yn ystafell wely'r Tywysog ynghyd â'i wraig Siwan, Arglwyddes Cymru. Rhai misoedd yn ddiweddarach, priododd merch hynaf Eva, Isabella, fab y Tywysog, Dafydd ap Llywelyn, gan fod eu cytundeb priodas wedi'i llofnodi cyn marw William de Braose. Ysgrifennodd y Tywysog Llywelyn i Eva yn fuan ar ôl ei ddienyddio, gan gynnig ei ymddiheuriadau, gan esbonio ei fod wedi ei orfodi i orchymyn y crogi gan fod yr arglwyddi Cymreig yn mynnu hynny. Daeth a'i lythyr i ben trwy ychwanegu ei fod yn gobeithio na fyddai'r dienyddio yn effeithio ar eu busnes.[3]

Yn dilyn dienyddiad ei gŵr, bu Eva yn cynnal tiroedd a chestyll Braose yn ei hawl ei hun. Fe'i rhestrir fel deiliad Totnes ym 1230, a gynhaliodd hyd ei marwolaeth. Fe'i cofnodir ar y Rholiau Caeedig (1234-1237) bod Eva wedi cael 12 marc gan y Brenin Harri III i gryfhau Castell y Gelli. Roedd hi wedi ennill Castell y Gelli fel rhan o'i chytundeb priodas.[4]

Yn gynnar yn 1234, cafodd Eva ei hun yng nghanol gwrthryfel ei brawd Richard yn erbyn y Brenin Harri ac o bosibl yn gweithredu fel un o'r cyflafareddwyr rhwng y Brenin a'i brodyr gwrthryfelgar yn dilyn llofruddiaeth Richard yn yr Iwerddon.[5] Mae hyn yn cael ei amlygu trwy'r ffaith iddi dderbyn sicrwydd o ddiogelwch ym mis Mai 1234, gan ei alluogi i siarad gyda'r Brenin. Erbyn diwedd y mis hwnnw, roedd ganddi writ gan y Brenin Harri gan roi ei meddiant iddi ar gestyll a thiroedd yr oedd wedi ei atafaelu ganddi yn dilyn gwrthryfel ei brodyr. Derbyniodd Eva ddatganiad ffurfiol gan y Brenin yn cyhoeddi ei bod hi'n ôl "yn ei gras da eto".[6]

Bu farw ym 1246 yn 43 mlwydd oed.

Ach golygu

Nodiadau golygu

  1. Er ei fod yn dal yr arglwyddiaeth mewn tenantiaeth, ni ddaliodd y teitl Arglwydd y Fenni.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Cawley, Charles (2010). Medieval Lands, Earls of Pembroke 1189–1245( Marshal)
  2. Costain, Thomas B.(1959). The Magnificent Century. Garden City, New York: Doubleday and Company Inc. p.103
  3. "Royal and Other Historical Letters illustrative of the Reign of Henry III" , ed The Rev. W.W. Shirley, M.A. – The Rolls Series 1862; letter 763a in Latin, translated at http://douglyn.co.uk/BraoseWeb/family/translation.html
  4. y Rholiau Caeëdig (1234–1237)
  5. Linda Elizabeth Mitchell (2003). Portraits of Medieval Women: Family, Marriage and Politics in England 1225–1350. New York: Palgrave MacMillan. p.47
  6. Mitchell, tud.47

Ffynonellau golygu