FK Riteriai

Clwb Pêl-droed yn Lithwania
(Ailgyfeiriad o FK Trakai)

Mae Futbolo Klubas Riteriai, a adnabyddir hefyd fel FK Riteriai, yn glwb pêl-droed proffesiynol wedi'i leoli yn nhref Vilnius yn Lithwania. Esgynodd y tîm i brif adran Lithwania, A Lyga yn 2014 gan orffen yn ail, yn nhymor 2015-16. Byddant yn chwarae C.P.D. Derwyddon Cefn o Uwch Gynghrair Cymru mewn cystadleuaeth Ewropeaidd Europa Leaguage ym mis Mehefin 2018.

FK Riteriai
Enw llawnFutbolo Klubas Riteriai
LlysenwauRiteriai (y Marchogion)
Sefydlwyd2005; 12 mlynedd yn ôl
MaesLFF Stadium
(sy'n dal: 5,400)
CadeiryddLithwania Jan Nevoina
Cynghrair1 Lyga
2023.10., A lyga
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Lliwiau'r tîm yw melyn a glas. Mae'r clwb yn chwarae yn LFF Stadium yn Vilnius, prifddinas Lithwania. Capasiti'r stadiwm yw 5,400.

Hanes golygu

Lleolir y clwb yn nhref Trakai, sydd oddeutu 24 km i'r gorllewin o'r brifddinas, Vilnius.

Sefydwyd y clwb yn 2005 er mwyn darparu adnoddau ac adloniant hammedn i blant a chymuned y dref. Crewyd daear artiffisial ar y stadiwum yn 2006.[1] a dechreuodd y tîm chwarae yn III Lyga (pedwerydd adran Lithwania). Yn 2010 esgynodd y tîm i II Lyga ac yn 2011 i'r ail adran genedlaethol, I Lyga. Fe esgynon nhw wedyn i'r A Lyga (y brif adran) yn 2014.

Newidiwyd yr enw 2019 FK Riteriai.[2]

A Lyga golygu

[3] Mae FK Trakai wedi chwarae ym mhrif adran Lithwania ers 2014 gan orffen yn 4ydd yn ei tymor cyntaf.

  • 2015 - Chwaraodd y clwb eu gêm gyntaf gystadleuol yn UEFA Europa League ar 2 Gorffennaf 2015 yn erbyn HB Torshavn o Ynysoedd Ffaröe. Trakai a orfu gan ennill 2-1 dros y ddau gymal. Collodd y clwb yn yr ail rownd i Apollon Limassol o Gyprus (colli 4–0 yn cymal cyntaf; 0-0 ail gymal).

Gorffennodd Trakai yn ail gan ennill yr hawl i gystadlu yn yr UEFA Europa League yn 2016-17.

Stadiwm golygu

 
Eisteddle'r dwyrain yn stadiwm LFF

Ers 2014 mae Trakai wedi chwarae yn LFF Stadium (Stadiwm Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania). Enw blaenorol y stadiwum oedd Stadiwm Vėtra Stadium. Adeiladwyd yn stadiwm yn 2004 ac mae'n dal 5,500 person.

Wedi i glwb pêl-droed fynd yn fethdalwyr, cymorodd Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania reolaeth o'r stadiwm.

Mae'r stadiwm bellach wedi cyrraedd Lefel 3 yn statws stadiymau UEFA. Estynnir y capasiti i 8,000.

Cyfeiriad y stadiwm yw Liepkalnio 13/2, Vilnius.

Campau golygu

  • A Lyga
  • Cwpan Bêl-droed Lithwania
    • Colli yn y ffeinal (1): 2016  
  • Supercup Lithwania
    • Ail safle (2): 2016, 2017  

Tymhorau (2000–...) golygu

FK Trakai (2010–2018) golygu

Blwyddyn Tymhorau Cynghrair lleoliad Cyfeiriadau
2010 3. Antra lyga (Pietūs) 4. [4]
2011 2. Pirma lyga 4. [5]
2012 2. Pirma lyga 4. [6]
2013 2. Pirma lyga 3. [7]
2014 1. A lyga 4. [8]
2015 1. A lyga 2. [9]
2016 1. A lyga 2. [10]
2017 1. A lyga 3. [11]
2018 1. A lyga 3. [12]

FK Riteriai (2019–...) golygu

Blwyddyn Tymhorau Cynghrair lleoliad Cyfeiriadau
2019 1. A lyga 3. [13]
2020 1. A lyga 6. [14]
2021 1. A lyga 6. [15]
2022 1. A lyga 5. [16]
2023 1. A lyga 10. [17]
2024 2. Pirma lyga . [18]

Cit golygu

Mae lliw cit FK Riteriai (FK Trakai) yn un melyn gartref a cit oddi cartref yn ddu a coch (fel AC Milan) rhwng 2014-2018. Ers 2018, glas tywyll yw lliw y cit oddi cartref.

 
 
 
 
 
 
2006-2013
(Cit Cartref)
 
 
 
 
 
 
2006-2013
(Cit oddi cartref)
 
 
 
 
 
Ers 2014
(Cit Cartref)
 
 
 
 
 
 
 
 
Ers 2014
(Cit oddi Cartref)
 
 
 
 
 
Ers 2018
(Cit oddi Cartref)

Cynhyrchwyr y Cit golygu

  • 2011–14 Patrick
  • 2015– Nike

Record yn Ewrop golygu

Source: UEFA.com
Pld = Matches played; W = Matches won; D = Matches drawn; L = Matches lost; GF = Goals for; GA = Goals against; GD = Goal Difference. Defunct competitions indicated in italics.

Tymor Cystadleuaeth Rownd Gwrthwynebydd Cartref Oddi Cartref Cyfanswm sgôr
2015–16 UEFA Europa League 1Q   HB Tórshavn 3–0 4–1 7–1  
2Q   Apollon Limassol 0–0 0–4 0–4  
2016–17 UEFA Europa League 1Q   Nõmme Kalju FC 2–1 1–4 3–5  
2017–18 UEFA Europa League 1Q   St Johnstone 1–0 2–1 3–1  
2Q   IFK Norrköping 2–1 1–2 3–3 (5–3 p)  
3Q   Shkëndija 2–1 0–3 2–4  
2018–19 UEFA Europa League PR   Derwyddon Cefn 1–0 1–1 2–1  
1Q   FK Irtyh Pavlodar 0–0 1–0 1–0  
2Q   FK Partizan 1–1 0–1 1–2  
2019–20 UEFA Europa League 1Q   KÍ Klaksvík 1−1 0−0 1−1  
Notes
  • PR: Rownd cychwynnol
  • 1Q: Rownd cymhwyso 1af
  • 2Q: Ail Rownd cymhwyso
  • 3Q: 3ydd Rownd cymhwyso

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.tfk.lt/lt/apie_kluba/apie/index.php
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-29. Cyrchwyd 2019-03-13.
  3. Futbolo žvaigždžių paieška. // Veidas.lt, 2011-08-09.
  4. http://almis.sritis.lt/ltu10lyga2s.html
  5. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2011.html#1lyga
  6. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2012.html#1lyga
  7. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2013.html#1lyga
  8. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2014.html#alyga
  9. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2015.html#alyga
  10. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2016.html#alyga
  11. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2017.html#alyga
  12. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2018.html#alyga
  13. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2019.html#alyga
  14. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2020.html#alyga
  15. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2021.html#alyga
  16. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2022.html#alyga
  17. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2023.html#alyga
  18. http://www.rsssf.com/tablesl/lito2024.html#1lyga

Dolenni allanol golygu