Ferdinand Tönnies

Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Ferdinand Julius Tönnies (26 Gorffennaf 18559 Ebrill 1936) sydd yn nodedig am osod seiliau gwyddonol i'w ddisgyblaeth ac am ei ymdrech i ailgymodi cysyniad y gymdeithas organaidd â damcaniaeth y cyfamod cymdeithasol.

Ferdinand Tönnies
Ffotograff o'r Athro Ferdinand Tönnies, tua 1915
Ganwyd26 Gorffennaf 1855 Edit this on Wikidata
Oldenswort Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Kiel Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcymdeithasegydd, economegydd, athronydd, academydd, awdur Edit this on Wikidata
SwyddGeheimrat Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, National-Social Association Edit this on Wikidata
PriodMarie Tönnies Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Ferdinand Julius Tönnies ar 26 Gorffennaf 1855 mewn ffermdy ger Oldenswort, ar orynys Eiderstedt yng Ngogledd Ffrisia, a oedd ar y pryd yn rhan o Ddugiaeth Schleswig dan reolaeth Denmarc. Roedd ganddo chwech o frodyr a chwiorydd.[1]

Mynychodd yr ysgol uwchradd yn Husum, ac yno bu'n edmygwr brwd o'r nofelydd a bardd Theodor Storm, mab enwocaf Husum ac un o hoelion wyth y mudiad realaidd yn llenyddiaeth Almaeneg. Astudiodd Tönnies y clasuron mewn sawl prifysgol, yn ôl yr arfer yn yr Almaen, ac enillodd ei ddoethuriaeth ym 1877. Trodd ei sylw wedyn at lu o feysydd academaidd, gan gynnwys athroniaeth, hanes, bioleg, seicoleg, economeg, ac ethnoleg, yn ei ymdrech i osod sail wyddonol i ddisgyblaeth newydd y cymdeithasegwyr.[1]

Ei ddiddordeb mewn Hobbes

golygu

Ym Merlin, ym 1876, cychwynnodd Tönnies ar ei astudiaeth drylwyr o waith yr athronydd Seisnig Thomas Hobbes ar awgrym ei gyfaill Friedrich Paulsen. Ar ei daith gyntaf i Loegr, ym 1878, darganfu Tönnies sawl llawysgrif gan Hobbes yn manylu ar ei ddamcaniaeth o'r ddeddf naturiol. Yn ei ymdriniaeth gyntaf (1879–81) o'r athronydd, a gyflawnwyd i ymgymhwyso ar gyfer ei radd o Brifysgol Kiel, dadleuai dros bwysigrwydd Hobbes i'r Chwyldro Gwyddonol yn yr 17g.[1] Ym 1889, cyhoeddodd Tönnies argraffiadau Saesneg o ddau waith gan Hobbes, Behemoth ac Elements of Law, Natural and Politic.[2] Ym 1896, cyhoeddodd Hobbes. Leben und Lehre, a fyddai'n cael ei ystyried yn fonograff safonol ar fywyd a meddwl yr athronydd.[1]

Gyrfa academaidd

golygu

Dechreuodd Tönnies ddarlithio ym Mhrifysgol Kiel ym 1882, yn canolbwyntio ar y cychwyn ar bynciau athroniaeth a llywodraeth. Yn fuan iawn, trodd ei holl sylw ysgolheigaidd at ddulliau empiraidd, ymchwil cymdeithasol ac ystadegaeth, a threuliodd y chwe blynedd nesaf yn llunio damcaniaeth gymdeithasol ei hun. Ym 1887 cyhoeddodd ei gampwaith, Gemeinschaft und Gesellschaft, a dderbyniodd ychydig o sylw ar y pryd; nid oedd hinsawdd ddeallusol yr oes yn groesawgar iddo. Cafodd yr agwedd wyddonol ar ddamcaniaeth gymdeithasol ei hwfftio gan dueddiadau hanesyddolaidd ei gyfoedion, ac nid oedd diddordeb gan wleidyddion Bismarckaidd mewn datrys y problemau cymdeithasol a achoswyd gan gynnwrf diwydiannol yn niwedd y 19g.[1]

Cafodd Tönnies ran yn y ddadl dros Ddarwiniaeth gymdeithasol, ideoleg a wrthwynebwyd ganddo yn ffyrnig. Enynnodd ddrwgdybiaeth y weinyddiaeth academaidd ym Mhrwsia am iddo leisio'i gefnogaeth i streic y docwyr yn Hamburg ym 1896–7, ac oherwydd ei gysylltiadau â'r mudiad Diwylliant Moesegol yn yr Almaen. O ganlyniad i'w daliadau, a ystyriwyd gan yr awdurdodau yn radicalaidd os nad sosialaidd, tarfwyd ar esgyniad ei yrfa academaidd, a na chafodd ei benodi yn athro economi wleidyddol ym Mhrifysgol Kiel nes 1909, a na chafodd ei ddyrchafu yn athro cadeiriol nes 1913.[1]

Cyfraniadau at gymdeithaseg

golygu

Oherwydd yr anghydfodau deallusol yn yr Almaen Imperialaidd yn niwedd y 19g, ni allai Tönnies ymroddi ei hun yn llwyr at ddatblygu ei ddamcaniaeth cymdeithasegol. Fodd bynnag, cafodd gyfnod toreithiog o 1894 i 1913, a chynhyrchodd nifer o erthyglau am broblemau damcaniaethol a gyfrannai at dwf y maes ar droad y ganrif. Roedd yn aelod gweithgar ac amlwg o'r Gymdeithas dros Wleidyddiaeth Gymdeithasol (Verein für Sozialpolitik) a'r Gymdeithas dros Ddiwygio Cymdeithasol (Gesellschaft für Soziale Reform). Ym 1909 sefydlwyd Cymdeithas Cymdeithaseg yr Almaen gan Tönnies, Max Weber, ac eraill.

Roedd cysyniad yr ewyllys yn ganolog i ddamcaniaeth gymdeithasegol Tönnies. Nododd wahaniaeth rhwng Wesenwille, yr ewyllys naturiol, a Kürwille, yr ewyllys resymol. Amlygir yr ewyllys naturiol yn y Gemeinschaft (cymuned), a gynhelir gan reolau traddodiadol ac undod organaidd, ond gall yr honno drawsnewid yn Gesellschaft (cymdeithas) sydd yn seiliedig ar hunan-les yn ôl yr ewyllys resymol. Trwy'r ddamcaniaeth hon, ceisiodd Tönnies ddatrys y ddadl gychwynnol yn y ddisgyblaeth rhwng y ddamcaniaeth organaidd o undod cymdeithasol a chysyniadaeth y cyfamod cymdeithasol.

Diwedd ei oes

golygu

Wed'r Rhyfel Byd Cyntaf, gwerthfawrogwyd gwaith Tönnies mewn amgylchfyd a oedd yn fwy gefnogol i wyddorau cymdeithas, ac ailargraffwyd Gemeinschaft und Gesellschaft sawl gwaith. Cyflawnai Tönnies ddau waith a gychwynnwyd ganddo ym 1907: Kritik der öffentlichen Meinung (1922), beirniadaeth gymdeithasegol ar farn y cyhoedd, a Geist der Neuzeit (1935), dadansoddiad o'r newidiadau cymdeithasol yn Ewrop ers yr Oesoedd Canol.

Yn ei henaint, aeth ati i lunio damcaniaeth systematig o'i faes. Amlinellai unedau, gwerthoedd, normau, a phatrymau cymdeithasol yn Einführung in die Soziologie (1931), ei gyflwyniad cynhwysfawr i ddamcaniaeth wyddonol cymdeithas. Ymhelaethodd ar y llyfr hwnnw gyda thair cyfrol atodiadol, yn ogystal â chyfres o erthyglau yn esbonio'i fethodoleg empiraidd.

Condemniodd Tönnies ideoleg Natsïaeth a'i threfn dotalitaraidd.

Bu farw Ferdinand Tönnies ar 9 Ebrill 1936 yn Kiel yn 80 oed.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Ferdinand Tonnies", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Awst 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Ferdinand Tönnies. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Awst 2021.