Ffederasiwn Pêl-droed Belarws
Ffederasiwn Pêl-droed Belarws yw awdurod genedlaethol pêl-droed yn ngweriniaeth Belarws. Yr enw Belarwsieg yw Беларуская Федэрацыя Футбола, traws-sillefir hyn fel Belarwscaia Ffederazyja Ffwtbola, (BFF), er mae'r enw llawn yw Ассоциация Беларуская Федэрацыя Футбола (Associatsia Belarwscaia Ffederazyja Ffwtbola, АБФФ) a dyna sy'n arddangos ar yr arwyddlun. Mae pencadlys y Ffederasiwn yn y brifddinas, Minsk.
UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 1989 |
Aelod cywllt o FIFA | 1992 |
Aelod cywllt o UEFA | 1993 |
Llywydd | Syarhey Rumas |
Gwefan | http://www.bff.by/ |
Mae'r gymdeithas yn trefnu pêl-droed yn Belarus ac felly mae'n gyfrifol ymhlith pethau eraill am dîm pêl-droed cenedlaethol Belarwseg. Y Ffederasiwn sy'n gyfrifol am Uwch Gynghrair Belarws, sef y Vysheyshaya Liha.
Hanes
golyguSefydlwyd y BFF ar 22 Rhagfyr 1989 yn ystod dadfaeliad yr Undeb Sofietaidd ond dwy flynedd cyn annibyniaeth Belarws ym mis Awst 1991. Daeth yn aelod o FIFA yn 1992 ac UEFA yn 1993. Chwaraewyd y gêm gyntaf fel gwladwriaeth annibynnol gan Belarws yn erbyn Iwcrain ar 22 Hydref 1992 a oedd yn gêm gyfartal 1-1.[1]
Hanes Pêl-droed yn Belarws
golyguMae'r wybodaeth ddibynadwy gyntaf am bêl-droed trefnedig yn nhaleithiau Belarwseg yn dyddio'n ôl i 1910. Yna ffurfiwyd y timau pêl-droed cyntaf yn Gomel a Mogilev. Fodd bynnag, ystyrir bod haf 1911 yn ddyddiad geni ar gyfer pêl-droed domestig, pan gyhoeddwyd adroddiadau am gemau a chwaraewyd yn unol â rheolau pêl-droed, hynny yw, timau llawn (un ar ddeg erbyn un ar ddeg) mewn safleoedd parod gyda chyflafareddwr ac ym mhresenoldeb gwylwyr.
Yn 1910 crëwyd y tîm pêl-droed cyntaf yn Gomel. Ei sylfaenydd oedd A. Libman, un o chwaraewyr pêl-droed mwyaf blaenllaw tîm Chwaraeon Kiev a'r tîm Kiev, a symudodd o Kyiv yn Iwcrain i weithio yn y gangen leol o Banc Oryol. Erbyn hydref 1910, roedd pedwar tîm pêl-droed yn Gomel.
Ar 13 Mehefin 1911, gosododd y papur newydd “Gomel kopek” y cyhoeddiad cyntaf yn Belarus ar bêl-droed.
Yn 1928, cynhaliwyd y gêm ryngwladol gyntaf gan dîm Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belarws (SSR Belarws - sef, i bob pwrpas, talaith o fewn yr Undeb Sofietaidd, a gymerodd ran yng ngêmau'r Gemau Holl-Undeb. Roedd yn anrhydedd i'n tîm chwarae yn y gêm gyntaf yn stadiwm newydd Dynamo ym Mosgo. Ar 17 Awst, trechodd y tîm Belarwseg drechu'r Swistir gyda sgôr o 6:3. Canlyniad perfformiad y tîm Belarws yng ngemau'r Gemau Holl-Undeb oedd y 5ed safle.
Annibyniaeth
golyguSefydlwyd Ffederasiwn Pêl-droed Belarws ar 22 Rhagfyr 1989, pan oedd yr Undeb Sofietaidd dal mewn bodolaeth. Enillodd Belarws ei hannibyniaeth yn 1991 ac yn 1992, cynhaliwyd y bencampwriaeth genedlaethol gyntaf yn Belarws. Fe'i cynhaliwyd ar system fyrrach mewn un cylch, tri wedyn - yn ôl y cynllun “hydref-gwanwyn” ar y ffyrf arferol i'r rhanfwyaf o Ewrop. Yn 1996 penderfynwyd newid i gynllun gwanwyn-hydref mwy addas ar gyfer amodau hinsawdd Belarus. I'r perwyl hwn, yn ystod tymor 1995, cynhaliwyd y bencampwriaeth ar y system "wedi'i gwtogi" (mewn un rownd).
Ar 20 Hydref 1992, cynhaliwyd y gêm swyddogol gyntaf gan y Belarws - yn Minsk mewn gêm gyfeillgar, yn erbyn Iwcrain. Sgoriodd y gôl gyntaf yn hanes tîm cenedlaethol Belarus gan Sergei Gotsmanov. Yr hyfforddwr cyntaf i'r tîm cenedlaethol o Belarus oedd Mikhail Vergeenko. Y sgôr oedd 1-1.
Y tro cyntaf i glybiau Belarws annibynnol gymryd rhan mewn twrnameintiau Cwpan Ewrop oedd yn 1993, pan chwaraeodd Dinamo Minsk yng Nghwpan Ewrop, a Chwpan Enillwyr Neman Grodno yn y Cwpan. Ers hynny, tîm BATE Borisov yw'r tîm Belarwsieg mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gan gyrraedd rownd Nghyngrair y Pencampwyr UEFA, a chyrraedd yr 16 olaf yn Cynghrair Europa UEFA yn 2010-11 a 2012-13 .[1]
Cystadlaethau
golyguMae'r BFF yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio cystadlaethau pêl-droed y wlad. Y prif rai yw:[2]
- Вышэйшая ліга, Vysheyshaya Liga sef, Uwch Gynghrair Belarws
- Adran Gyntaf
- Ail Adran
- Cwpan Belarws
- Supercup Belarws
- Pencampwriaeth Ieuenctid
- Adran Ail Dimau'r Prif adran
Strwythur y BFF
golygu- Pwyllgor Apêl, Pwyllgor Disgyblu,
- Pwyllgor Cyn-chwaraewyr a Phêl-droed torfol
- Pwyllgor Pêl-droed Ieuenctid
- Pwyllgor Pêl-droed Menywod
- Pwyllgor Ffederasiynau Rhanbarthol
- Pwyllgor Meysydd Chwarae a Diogelwch
- Pwyllgor ar statws a trawsffurfiad chwaraewyr pêl-droed
- Pwyllgor Trwyddedi
- Pwyllgor Barnu
- Comisiynwyr
Cyfeiriad
golyguLleolir pencadlys y Ffederasiwn ar 220020, Минск, пр. Победителей, д.20, корп.3 (220020, Minsk, Pobediteley Avenue, 20, block 3).
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-30. Cyrchwyd 2019-07-08.
- ↑ http://abff.by/test/test/test/test/test/test/test/test/test/test/test/test/test/test/index.php?option=com_joomsport&view=calendar&sid=157&Itemid=277&lang=ru[dolen farw]