Tîm pêl-droed cenedlaethol y Swistir

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Y Swistir (Almaeneg: Schweizer Nati; Ffrangeg: La Nati; Eidaleg: Squadra nazionale) yn cynrychioli Y Swistir yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Y Swistir (ASF-SFV), corff llywodraethol y gamp yn Y Swistir. Mae'r ASF-SFV yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Mae'r Swistir wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar 10 achlysur gan gynnal y gystadleuaeth ym 1954.

Maent hefyd wedi cynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar y cyd gydag Awstria yn 2008 ac wedi cipio'r fedal arian yng Ngemau Olympaidd Paris 1924.

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.