Ffederasiwn Pêl-droed Croasia

Yr The Hrvatski nogometni savez (HNS) (Cymraeg: Ffederasiwn Pêl-droed Croasia) yw cymdeithas bêl-droed genedlaethol Croasia. Dyma'r corff sy'n gyfrifol am weinyddu a hyrwyddo pêl-droed yn y wlad ac am y timau cenedlaethol. Mae'r pencadlys yn y brifddinas, Zagreb. Mae iddi hanes ddiddorol a chyn 1991, heblaw am gyfnod byr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, chwaraeau ei dynion i dîm pêl-droed cenedlaethol Iwgoslafia. Yn 2009, roedd gan yr HNS 118,316 chwaraewr cofrestredig (650 ohonynt yn broffesiynnol) a chyfanswm o 1,732 o glybiau pêl-droed cofrestredig gan gynnwys clybiau futsal.[3]

Ffederasiwn Pêl-droed Croasia
UEFA
[[File:Arfbais HNS|150px|Association crest]]
Sefydlwyd13 Meh. 1912
Aelod cywllt o FIFA16 Gorff. 1941 (fel Gwladwriaeth Annibynnol Croasia)[1]
3 July 1992 (as Croatia)[2]
Aelod cywllt o UEFA16 Meh. 1993
LlywyddDavor Šuker
(2012–presennol)
Gwefanwww.hns-cff.hr

Hanes golygu

 
Crys pêl-droed ac arfbais yr HNS

Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Croasia yn 1912 on wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, llyncywd Tîm pêl-droed cenedlaethol Croatia gan dîm a ffederasiwn newydd y wladwriaeth newydd, Brenhiniaeth Iwgoslafia. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Croasia ei hannibyniaeth oddi ar Iwgoslafia (er i nifer weld hwn fel gwladwriaeth bwped i Natsiaidd) ac ar 14 Gorffennaf 1941 daeth yn aelod (am y tro cyntaf) o gorff llywodraethol pêl-drod fyd-eang, FIFA. Chwaerodd y tîm cenedlaethol 14 gêm ryngwladol yn y cyfnod yma, rhwng 1941-44.[2]

Wedi'r Ail Ryfel Byd a chwymp Natsiaeth, ail-sefydlwyd Iwgoslafia fel Gweriniaeth Ffederal Gomiwnyddol unedig, a collodd Croasia ei thîm genedlaethol. Aeth ei chwaraewyr i chwarae unwaith eto dros Iwgoslafia. Yn hyn o beth, mae hanes cymdeithas a thîm bêl-droed Croasia yn debyg i Slofacia. Roedd diwedd yr 1980au yn gyfnod cythryblus yn Iwgoslafia wrth i'r wladwriaeth ymrafael ac yn symptom o hyn oedd dadrithiad awdurdodau a ffans pêl-droed Croasia gyda gwladwriaeth Iwgoslafia.

Ar 17 Hydref 1990 chwarawyd gêm gyntaf tîm cenedlaethol Croasia yn ei ail-gyfnod. Roedd y gêm gyfeillgar yn erbyn yr UDA. Ar ddiwedd y tymor pêl-droed hwnnw, penderfynodd clybiau pêl-droed Croasia beidio chwarae mwyaf yng nghystadlaethau Iwgoslafia.

Wedi i Croasia cael ei chydnabod fel gwlad annibynnol ar 8 Hydref 1991, ymgeisiodd y Ffederasiwn am gydnabyddiaeth ryngwladol. Caethpwyd hyn gan FIFA ar 3 Gorffennaf 1992 a gan UEFA ar 17 Mehefin 1993.[2][3]

Cais Cynnal Cwpan Euro 2012 golygu

Gwnaeth Croasia gais ar y cyd gyda Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari i gynnal pencampwriaeth Euro 2012. Ond mewn cyhoeddiad ar 18 Ebrill 2007 yng Nghaerdydd datganodd UEFA mai cais ar y cyd rhwng Gwlad Pŵyl ac Iwcrain oedd yn fuddugol.

Strwythur golygu

Yr HNS sy'n gyfrifol am gystadlaethau a strwythur pêl-droed yn y wlad. Ceir sawl cynghrair a sawl tîm genedlaethol.

Pêl-droed Dynion golygu

  • 1. HNL (neu Prva HNL); Adran Gyntaf
  • 2. HNL (neu Druga HNL); Ail Adran
  • 3. HNL (neu Treća HNL); Trydydd Adran
  • Cwpan Croasia
  • Super Cup Croasia

Pêl-droed Ieuenctid golygu

1. HNL Academy; Cynghrair Gynraf i dimau'r academi gyda dau gategori oedran - dan-19 (Juniori) a dan-17 (Kadeti)

Pêl-droed Menywod golygu

  • 1. HNLŽ (neu Prva HNL za žene); Adran Gyntaf Menywod
  • Cwpan Menywod Croasia

Timau Cenedlaethol golygu

Mae'r Ffederasiwn yn trefnu timau cenedlaethol ar gyfer pob categori oedran:

Dynion golygu

Tîm pêl-droed cenedlaethol Croatia - rheolwr cyfredol, Zlatko Dalić
Yna, timau cenedlaethol dan-21; dan-20; dan-19; dan-17; dan-15

Menywod golygu

Tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Croatia - rheolwr cyfredol Božidar Miletić

Futsal golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "History - Croatian Football Federation". hns-cff.hr. Cyrchwyd 12 February 2018.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Goal Programme - Croatian Football Federation - 2006". FIFA.com. 20 January 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-04. Cyrchwyd 26 April 2010.
  3. 3.0 3.1 "About the Croatian Football Federation - Facts and Figures". Croatian Football Federation. Cyrchwyd 26 April 2010.