Ferula communis
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Ferula
Enw deuenwol
Ferula communis
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol ydy Ffenigl mawr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ferula communis a'r enw Saesneg yw Giant fennel.

Mae'r Ferula communis yn llysieuyn lluosflwydd tal a gellir ei ganfod mewn coetir neu dir gwastraff yng ngwledydd y Y Môr Canoldir.[1] It was known in antiquity as narthex.[2]

Perthynas â Dyn golygu

Ferula communis. Meddai Polunin a Huxley[3]: Defnyddir y craidd wedi ei sychu fel golosged; mae’n llosgi’n araf iawn ac felly gellir ei gludo o gwmpas ynghŷn. Felly disgrifia Hesiod y  duw Prometheus yn cludo tân a ddygodd o‘r Nefoedd “mewn fferwla”. Mewn rhai mannau o Fôr y Canoldir defnyddir y coesau i wneud dodrefn. Dywed Mabberley[4] fel hyn: scapes formerly used for furniture (Cyprus), tipped with a pine cone [Nodyn: Nid oes cysylltiad yma a'r gair ferrule - y peth sydd ar flaen ffon gerdded i'w hamddiffyn. Mae hwnnw’n gytras a’r Ffrangeg virole, sef y ’fodrwy’ ar Bunsen burner i reoli’r fflam meddai Dominig Kervegant[5].] Etre sous la ferule d’une personne meddai’r Ffrancwr (“i fod dan y lach” meddwn ninnau. le nom ferule est issue de ferula..planhigyn meddai’r dyddiaduron Ffrangeg y defnyddir y goes fel ffon i “gywiro” plant anystywallt. Fe’i defnyddir hefyd i awgrymu bod o dan awdurdod creulon teyrn.]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Flora of Israel Online entry". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-14. Cyrchwyd 2014-12-27.
  2. doi:10.1093/jxb/erp041
    This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand
  3. Polunin a Huxley Flowers of the Mediterranean
  4. Mabberley's Plant Book, CUP 2008
  5. cys. pers. DB
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: