Fflei peiriant
Ymarfer hyfforddi cryfder sy'n seiliedig ar y fflei ydy fflei peiriant. Fel gyda'r fflei cyffredin, mae'r llaw a'r fraich yn symud drwy siâp bwa tra bod yr elin yn aros ar ongl cyson. Defnyddir y fflei er mwyn ymarfer cyhyrau rhan uchaf y corff, pen sternal y prif bectoralis yn bennaf. Am fod yr ymarferion hyn yn defnyddio'r breichiau fel liferi pan maent wedi'u hymestyn hyd eu heithaf, mae faint o bwysau y gellir ei symud yn cael ei leihau'n sylweddol o'i gymharu â ymarferion gwasgu tebyg ar gyfer yr un cyhyrau (er enghraifft gellir defnyddio'r gwasg filwrol ar gyfer yr ysgwyddau a gwasg fainc ar gyfer y frest).