Fforchlys y calch
Fforchlys y calch Herbertus stramineus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Herbertaceae |
Genws: | Herbertus |
Rhywogaeth: | H. stramineus |
Enw deuenwol | |
Herbertus stramineus |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys y calch (enw gwyddonol: Herbertus stramineus; enw Saesneg: straw prongwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'n debyg iawn i fwsogl ac yn tyfu mewn twmpathau codi, brown budr neu bron yn ddu. Mae'r coesynnau'n 3–7 cm o daldra. Gyda lens llaw, mae'r dail yn gorgyffwrdd yn agos at y canol. Mae'r dail yma'n 1–1.5 mm o hyd gyda'r llabedau wedi'u pwyntio'n fain ac yn ymledu.[1]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 20 Awst 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.